
Chwe Gwlad: Cymru angen 'mwynhau'r her' o wynebu Lloegr
Mae angen i chwaraewyr Cymru "fwynhau'r her" o wynebu Lloegr yn y Chwe Gwlad meddai'r prif hyfforddwr Sean Lynn.
Fydd Cymru yn herio'r rhosod cochion o flaen torf o 20,000 yn Stadiwm Principality brynhawn dydd Sadwrn - y dorf fwyaf erioed i unrhyw ddigwyddiad chwaraeon merched yng Nghymru.
Colli oedd hanes Cymru yn eu gêm agoriadol wrth i'r Alban ennill 24-21 y penwythnos diwethaf.
A gyda'r Saeson yn y safle cyntaf ar restr detholion y byd, nid yw Cymru yn rhagweld gêm hawdd yng Nghaerdydd.
Ond mae prif hyfforddwr newydd Cymru yn dweud y dylai ei chwaraewyr "fwynhau'r her" o wynebu Lloegr yn y brifddinas.
"Fe wnaethom gymryd y cam cyntaf yn nhaith y garfan yma yn erbyn yr Alban, ac mae'r cyfle i chwarae o flaen y dorf fwyaf yn hanes chwaraeon merched Cymru yn foment gyffrous i'r chwaraewyr, hyfforddwyr a staff," meddai Sean Lynn.
"Rydym wedi dweud wrth y chwaraewyr i fod yn ddewr ac i gredu yn eu gallu i gystadlu ar y lefel uchaf.

"Mae rhan fwyaf o'r garfan yma yn chwarae yn Lloegr ac yn ymarfer ochr yn ochr â chwaraewyr Lloegr.
Ychwanegodd: "Rydym wedi hyfforddi a chwarae yn erbyn nhw, ac rydym yn gwybod beth maen nhw'n gallu ei wneud. Ond mae hyn amdanom ni a sut rydym ni eisiau perfformio yn y brifddinas.
"Lloegr yw'r tîm gorau yn y byd a ffefrynnau nifer i ennill Camp Lawn arall a Chwpan y Byd 2025.
"Ni ddylwn guddio rhag yr her o'm blaenau ond mwynhau'r cyfle i brofi ein hun o flaen torf angerddol Gymreig."
Buddugoliaeth i Loegr yw’r canlyniad arferol yn y gêm hon, gan eu bod wedi ennill 20 allan o 22 o'r gemau diwethaf.
Felly mae gan Gymru fynydd sylweddol i'w ddringo brynhawn Sadwrn, o gofio mai buddugoliaeth o 46-10 i Loegr oedd y canlyniad y llynedd.
Y canolwr Hannah Jones fydd yn arwain y tîm unwaith eto a’i hîs-gapten fydd y mewnwr Keira Bevan.
Mae Sean Lynn wedi gwneud dau newid i’r tîm ddechreuodd y gêm yn Yr Alban y penwythnos diwethaf wrth iddo alw ar wasanaeth y prop Gwenllïan Pyrs a’r clo Gwen Crabb o’r cychwyn cyntaf.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1905237779132334214
Bydd Pyrs yn ymuno â’r bachwr Carys Phillips a’r prop arall Jenni Scoble yn y rheng flaen. Dyma fydd yr ail gêm i Scoble ddechrau ar y lefel rhyngwladol.
Bydd Crabb yn ymuno ag Abbie Fleming yn yr ail reng – tra bydd y rheng ôl yn aros yr un fath.
Mae wythwr Cymru Georgia Evans yn dechrau i’r crysau cochion, er iddi dderbyn cerdyn coch yn gêm agoriadol y gystadleuaeth. Roedd panel disgyblu o'r farn bod y cerdyn coch yn gosb "ddigonol" gyda "dim sancsiwn pellach".
Fe fydd y gic gyntaf yn y Stadiwm Principality am 16.45.
Prif lun: Asiantaeth Huw Evans