Newyddion S4C

‘Ychydig iawn o empathi’ gan Gyfoeth Naturiol Cymru am eu canolfannau ymwelwyr

Canolfan Ymwelwyr Ynyslas

Mae aelod o’r Senedd wedi beirniadu Cyfoeth Naturiol Cymru am ddangos “ychydig iawn o empathi a dealltwriaeth” am bryderon pobl am ddyfodol eu canolfannau ymwelwyr.

Fe leisiodd Carolyn Thomas o’r Blaid Lafur bryderon ynghylch y modd yr ymdriniodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) â chynlluniau ar gyfer eu canolfannau ymwelwyr yn Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas.

Dywedodd Ms Thomas: “Rwy’n teimlo nad yw wedi cael ei drin yn dda iawn, ychydig iawn o gyfathrebu ac empathi oedd â phobl, y cymunedau dan sylw.”

Gan alw am well ymgysylltiad, fe bwysodd ar y dirprwy brif weinidog a'r ysgrifennydd amgylchedd Huw Irranca-Davies, oedd yn ymddangos o flaen pwyllgor hinsawdd y Senedd er mwyn craffu ar y penderfyniadau.

Ms Thomas yw cadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd a dderbyniodd fwy nag un ddeiseb ar y pwnc – gyda’r fwyaf poblogaidd wedi’i harwyddo gan fwy na 13,000 o bobl.

‘Ychydig o empathi’

Dywedodd Ms Thomas: “Roeddwn i hefyd yn poeni am y ddealltwriaeth o Ynyslas … roedden nhw’n dweud eu bod nhw’n cau … y bwyd a’r arlwy manwerthu ond mewn gwirionedd mae’n warchodfa natur.

“Roedden nhw’n teimlo eu bod nhw’n cael trafferth cyfleu hynny i CNC.”

Dywedodd Mr Irranca-Davies: “Rwy’n siŵr y bydd CNC yn clywed hyn hefyd. Rwyf yn cynnal trafodaethau rheolaidd gyda CNC ac rydym wedi codi’r mater hyn o gyfathrebu effeithiol ar yr hyn sy’n digwydd a’r hyn sydd ddim yn digwydd.

“O ran Ynyslas … dwi’n meddwl bod yna ddealltwriaeth bod staff Ynyslas fwy na thebyg wedi mynd y tu hwnt i’r hyn maen nhw wedi’i gontractio i’w wneud, felly maen nhw hefyd wedi cynnig cyngor, cyfeirio, cyngor natur ac ati.

“Ond does dim bwriad o gwbl i dynnu’n ôl o’r agweddau cadwraeth natur, yr agweddau bioamrywiaeth – y rôl maen nhw’n ei wneud allan yna yn y dirwedd.”

‘Dim cydnabyddiaeth’

Dywedodd Mr Irranca-Davies fod CNC wedi penderfynu camu’n ôl o’r ochr bwyd, arlwyo a manwerthu i ganolbwyntio ar gyfrifoldebau craidd.

“Ond rwy’n meddwl bod eich pwynt wedi’i wneud yn dda,” meddai. “Y cyfathrebu a’r natur agored gyda phobl leol sy’n wirioneddol bryderus am … ​​ddyfodol safleoedd natur a … staff.”

Roedd Julie Morgan o’r Blaid Lafur, yr un mor bryderus.

Dywedodd: “Hoffwn gefnogi’r hyn y mae Carolyn wedi’i ddweud … mae Ynyslas wedi dod ataf ac roedd yna … deimlad o ddim cydnabyddiaeth o’r gwaith gwirioneddol roedden nhw’n ei wneud….

“Mae'n edrych yn sefyllfa anfoddhaol.”

‘Peth iawn i’w wneud’

Ychwanegodd Mr Irranca-Davies: “Yr ochr arlwyo a manwerthu y maen nhw’n camu’n ôl ohoni ac mae’n rhaid i mi ddweud, yn y cyfyngiadau ariannol sydd arnyn nhw, mae’n debyg mai dyna’r peth iawn i’w wneud: canolbwyntio ar rolau craidd CNC.

“Ond wrth wneud hynny, sensitifrwydd delio â chymunedau lleol ac … aelodau staff presennol yw’r hyn y mae’n rhaid iddynt ei lywio."

Dywedodd wrth y pwyllgor ei fod yn obeithiol am y cyfle i eraill gamu i mewn a darparu arlwyo a manwerthu.

Mewn ymateb, dywedodd Elsie Grace, Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy CNC: "Hoffem ailadrodd a sicrhau’r cyhoedd y bydd yr holl lwybrau, meysydd parcio, ardaloedd chwarae a chyfleusterau toiled yn parhau i fod ar agor a bydd rheolaeth y safleoedd yn aros gyda'n staff rheoli tir fel y mae ar hyn o bryd.

"Rydym bellach yn canolbwyntio'n gadarn ar y broses o ddod o hyd i bartneriaid i gofrestru diddordeb mewn darparu gwasanaethau ym Mwlch Nant yr Arian a Choed y Brenin. Ar hyn o bryd rydym yn y broses o gadarnhau sut a phryd y byddwn yn cyflwyno’r cyfleoedd hyn i’r farchnad ac rydym yn gobeithio cyfathrebu mwy o wybodaeth yn fuan.

"Hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd a'u dealltwriaeth gan ein bod yn gwybod eich bod chi'n awyddus i wybod beth yw’r camau nesaf, ond rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n ei wneud yn iawn er mwyn osgoi dryswch ac unrhyw broblemau posibl yn y dyfodol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.