
Treth ar ail dai yn 'cosbi rhai pobl leol' medd teulu o Fôn
Mae teulu o Fôn sydd wedi talu cannoedd o bunnoedd o dreth y cyngor ar dŷ gwag yn dweud eu bod yn poeni am y posibilrwydd o orfod talu bron i ddwywaith y dreth arferol ar yr eiddo o fewn wythnosau.
Er bod Melanie ac Aidy Shingler o Frynsiencyn yn cytuno gydag egwyddor trethu ail dai, maen nhw'n dweud bod y rheolau'n rhy gaeth mewn rhai achosion penodol.
Mae oedi wrth aros am grant i gwblhau gwaith adnewyddu ar eu tŷ newydd yn golygu nad oes modd i'r teulu symud iddo.
Mae'r ddau a’u plant wedi bod yn byw mewn tŷ rhent ym Mrynsiencyn ers dros 15 mlynedd ac wedi prynu tŷ arall yn y pentref er mwyn ei adnewyddu fel cartref teuluol newydd.
Mae gostyngiad am 12 mis ym mil treth y cwpl ar gyfer eu hail dŷ, sydd heb ddŵr na thrydan, yn dod i ben yn fuan, gyda'r eithriad hwnnw ar fin gorffen maen nhw'n poeni y bydd cynnydd sylweddol i ddod mewn taliadau.

Yn Ebrill 2023, fe benderfynodd y cwpwl brynu tŷ yn y pentref oedd wedi bod yn sefyll yn wag ers rhai blynyddoedd, a hynny ar ôl derbyn cyngor gan Gyngor Môn ar sut i hawlio grant i adfer tai gwag.
Ond ddwy flynedd ers prynu’r tŷ, mae’n parhau’n wag wedi "oedi sylweddol" yn y broses o hawlio'r grant, ac mae'r ddau wedi eu dal mewn sefyllfa anodd o ganlyniad i bolisi trethu ail gartrefi'r cyngor.
Ers 2017, mae polisi trethu ail dai'r cyngor yn eu galluogi i godi dau bremiwm treth y cyngor; premiwm eiddo gwag o 100%, a phremiwm ail gartref o 100% ar eiddo nad yw’n brif gartref y trethdalwyr.
Ar ôl prynu'r tŷ yn Ebrill 2023, cafodd y teulu eithriad llawn rhag talu treth cyngor am flwyddyn, am ei fod yn dŷ gwag.
Yn ystod 2024/25, fe dderbyniodd y cwpwl eithriad i dalu 50% o dreth cyngor ar yr eiddo, sef swm o tua £85 y mis, yn hytrach na threth cyngor a'r premiwm llawn am dŷ gwag, a fyddai wedi bod yn gyfanswm o dros £330 y mis.
Yn ogystal â hynny, maent wedi parhau i dalu cannoedd o bunnoedd bob mis i rentu’r tŷ maen nhw’n “awyddus” i symud allan ohono.
Dywedodd Melanie Shingler wrth Newyddion S4C: "Dwi yn cytuno efo’r polisi. Mae 'na gymaint o dai yn y pentra ‘ma sydd wedi mynd fel ail dai, fel tŷ drws nesa. Mae’n drist ac mae’r gymuned yma yn cael ei golli.
“Dwi di bod yn yr ysgol gynradd yma, mae mhlant i ‘di bod yn yr ysgol gynradd yma, felly pobol Bryn ydan ni.
“Be dwi ddim yn ddallt ydi pam bod y cyngor yn cosbi pobol leol. Dwi’n cytuno efo’r dreth ar ail dai, ond dwi’n teimlo bod yr amgylchiadau fan hyn, dio’m cweit yn ffitio be oedd pwrpas y dreth.”
Oedi
Mae oedi yn y broses o gofrestru’r tŷ fel un gwag, ac yna cymeradwyo’r grant sydd yn werth £12,000, yn golygu nad yw rhan helaeth o’r gwaith i adfer yr eiddo wedi ei wneud eto – gan gynnwys adfer cyflenwadau dŵr a thrydan.
Mae’r teulu yn dweud bod oedi a “diffyg cyfathrebu” rhwng Cyngor Môn a Chyngor Rhondda Cynon Taf, sydd yn gweithredu’r Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol, wedi gwneud y broses yn un “ara deg iawn”.
Dywedodd Melanie Shingler: “Mae o wedi bod yn stressful. Pan ti’n trio prynu’n lleol, ddaru ni drio prynu gan bobol leol, ag ella bod hynny wedi bod yn gamgymeriad ond dwi’m yn meddwl.

“Mewn gwirionedd, y rheswm mae’r gwaith wedi cymud cyn hired ydi oherwydd y grant, am bod o wedi bod yn gymaint o broses ara’ deg. Mae di bod yn ddiawledig o ara’ deg.
"Mae na dŷ rent da yma i deulu bach sydd ddim yn medru fforddio tŷ eu hyn. Ond da ni’n blocio fo ar hyn o bryd."
Mae Cyngor Môn yn dweud nad oes modd gwneud sylw ar achosion penodol, ond eu bod yn rhoi eithriadau i dreth y cyngor ar eiddo “sydd angen atgyweirio strwythurol mawr”.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dweud bod “oedi wrth wirio’r wybodaeth gyfreithiol a technegol angenrheidiol” wedi golygu bod y cais wedi cymryd yn hirach na’r cyfnod o 12 wythnos arferol ar gyfer y broses.
Prynu tŷ yn lleol
Wedi ei geni a’i magu ym Mrynsiencyn, mae Ms Shingler a’i gŵr wedi rhentu tŷ yn y pentref ers dros 15 mlynedd. Mae dau o’u tri phlentyn yn dal i byw gyda nhw.
Pan glywson nhw fod gŵr yn y pentref yn rhoi tŷ ei ddiweddar fam ar y farchnad ac yn awyddus gwerthu i rywun oedd yn lleol, fe benderfynodd y cwpwl rhoi cynnig am y tŷ gwag - a hynny ar ôl derbyn cyngor “grêt” gan adran grantiau Cyngor Môn.
Daeth y tŷ i berchnogaeth y teulu ym mis Ebrill 2023. Gan ei fod wag, fe wnaeth y teulu dderbyn eithriad llawn rhag talu treth cyngor am flwyddyn.
Ond wrth wneud cais am grant i atgyweirio’r tŷ gwag, fe ddywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf wrth Mr a Mrs Shingler nad oedd y tŷ wedi'i gofrestru’n wag - a hynny ar ôl iddyn nhw dderbyn cadarnhad gan Gyngor Môn.
Er mwyn cymhwyso ar gyfer gofynion y Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol, fe wnaeth y cyfrifoldeb o gofrestru'r eiddo ddisgyn ar Gyngor Môn. Fe gymerodd bum mis – hyd at Fedi 2023, i’r broses gael ei chwblhau.
Wedi hynny, dechreuodd y broses o wneud cais am grant, gyda Chyngor Môn yn cyd-lynu’r broses gyda Chyngor Rhondda Cyngor Taf.
Roedd y broses yn un “ara deg iawn” yn ôl Miss Shingler.

Ond yn Ebrill 2024, saith mis ers dechrau’r broses o ymgeisio am grant, daeth bil treth y cyngor ar gyfer y tŷ newydd, oedd yn codi premiwm 100% ar ben y dreth arferol, am ei fod yn dŷ gwag hir dymor.
Dywedodd Miss Shingler fod "yna ddagrau" ar ôl derbyn y bil.
“Dywedodd Sir Fôn gan mai ail gartref oedd o, fysan ni’n gorfod talu dwbl,” meddai.
“Yr adeg yna, doedd genna ni ddim bathrwm, dim gegin, dim dŵr, dim trydan hyd yn oed. Dim ond cas y tŷ.
"Neshi ddeud hynny wrth y cyngor, ag mi o’n i’n ddigon gwirion i feddwl bod hynny’n ddigon, ond oeddan nhw’n benderfynol bo ni’n mynd i orfod talu’r dwbwl.
“Ar ôl dipyn o to and fro ddaru nhw ddeud bod croeso i ni apelio, a dyna naethon ni. Yn y diwadd, ddaru nhw gytuno i ni dalu 50% ar y tŷ yn lle 200%, yn y bôn. Ond mi oeddan nhw’n ddigon cadarn a deud ‘na dim ond am 12 mis fydd y cytundeb yma mewn lle.”
Disgwyl
Wythnos cyn y Nadolig y llynedd, ac 14 mis ar ôl cychwyn ar y cais am grant o £12,000, daeth cadarnhad bod y cais wedi bod yn llwyddiannus.
Byddai’r arian yn talu am waith angenrheidiol yn unig, sef cyflenwad trydan y tŷ, drysau a ffenestri, ac ychydig tuag at y gegin. Yn ôl y cynllun, byddai'r arian yn cael ei ryddhau unwaith i’r gwaith gael ei gwblhau.
Nawr, tri mis ers y cadarnhad, mae Mr a Mrs Shingler yn disgwyl i’r gwaith gael ei orffen. Wedi hynny, bydd angen i syrfëwr ei wirio, cyn bod yr arian yn cael ei ryddhau i dalu’r gweithwyr.
Wedi bron i ddwy flynedd o ddisgwyl, mae’r teulu yn gobeithio gallu symud i’r eiddo o fewn y “dau neu dri mis nesaf”.
Ond maen nhw yn pryderu am eu bil treth cyngor, gyda chynnydd o 8.5% ar y gweill i drethdalwyr yr ynys o fis Ebrill. Mae’r cyngor yn dweud bod modd i drigolion wneud cais am eithriad am flwyddyn ychwanegol, ond dal i ddisgwyl am y bil mae’r cwpwl.
“Mi ddaru nhw ddeud blwyddyn dwytha pan naethon nhw gytuno i’r gostyngiad, dim ond am flwyddyn mae hyn. Oeddan nhw’n reit glir am hynny,” meddai Ms Shingler.
“Na’i drio cael eithriad ond dwi’m yn obeithiol. Be sy’n frustrating ydi dim ond disgwyl am y grant ‘da ni wedi bod yn neud yn ystod y flwyddyn o’r eithriad. Da ni heb di gallu neud y gwaith sydd angan ei neud achos bod o di bod yn ddiawledig o ara’ deg.
Ychwanegodd: ““Da ni ddim yn gyfoethog - fysan ni ddim yn chwilota am grant os fysan ni’n gyfoethog. Da ni ddim yn bell o gorffan rŵan, ond os fysa’r grant wedi bod yn effective yn y ffordd oedd o’n rhedag, sa ni di bod yna erbyn rŵan yn hawdd. Mae o wedi bod yn stressful.
“Yn sbio nôl rwan, gan gynnwys cost rent a’r dreth ychwanegol, da ni ddim yn mynd i fod yn rhy bell o’r swm yna os fysan ni just wedi cario ymlaen a neud y gwaith ein hunain heb y grant.”

Dywedodd llefarydd o Gyngor Môn wrth Newyddion S4C mewn ymateb nad oedd modd gwneud sylw ar achosion penodol.
Ond fe wnaeth y Cyngor amlinellu’r canllawiau a'r rheolau sy’n llywio’r broses o ran Treth y Cyngor a Grantiau Adfer Tai Gwag.
Yn ôl y Cyngor, "gall eiddo gwag sydd angen atgyweirio strwythurol mawr gael eu heithrio rhag y Dreth Gyngor a'r premiwm eiddo gwag am hyd at un flwyddyn."
Yna, mae'n bosib wedyn "derbyn eithriad pellach o’r premiwm tai gwag hyd at ddwy flynedd ychwanegol."
O ran y grant, dywedodd y llefarydd: “Mae gwefan Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol yn nodi “rydyn ni'n gweithio tuag at gymeradwyo grant ffurfiol o fewn 12 wythnos.
“Mae modd i hyn amrywio yn dibynnu, er enghraifft, ar wiriadau'r Gofrestrfa Tir, argaeledd/amserlenni Awdurdodau Lleol a chyflwyno'r holl ddogfennau gofynnol i Gyngor Rhondda Cynon Taf.”
Amserlen gwaith
Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf fod oedi o naw mis yn derbyn yr amserlen Gwaith gan Adran Tai Cyngor Môn, yn ogystal ag oedi mewn derbyn dogfennau cyfreithiol a thechnegol gan dwrnai a'r Gofrestra Tir, wedi achosi i’r broses ymestyn yn hirach na’r cyfnod o 12 mis a glustnodir ar ei chyfer.
Dywedodd llefarydd: “Derbyniwyd cais dilys ym mis Medi 2023. Yna rhannwyd manylion yr ymgeisydd gyda Chyngor Ynys Môn ym mis Hydref 2023 i wneud trefniadau i ymweld i arolygu’r eiddo. Ni chawsom amserlen gwaith, sy’n ddogfen allweddol i brosesu’r cais, tan fis Mehefin 2024.
“Dim ond ym mis Mehefin 2024 yr oedd tîm y Grant Tai Gwag mewn sefyllfa i fwrw ymlaen ag ochr dechnegol y grant a dim ond ym mis Hydref 2024 y gellid cael y Dystysgrif Teitl berthnasol yn dangos perchnogaeth yr ymgeisydd, er mwyn galluogi ochr gyfreithiol y grant i symud ymlaen.
"Gofyniad ychwanegol yr oedd ei angen wedyn i symud materion ymlaen oedd llythyr caniatâd gan ddarparwr morgais yr ymgeisydd.
“Fel arfer byddwn yn anelu at gwblhau ceisiadau ffurfiol o fewn 12 wythnos. Fodd bynnag, bu oedi cynyddol wrth ddilysu'r wybodaeth gyfreithiol a thechnegol angenrheidiol a wnaeth oedi cymeradwyaeth y tu hwnt i'r 12 wythnos ddisgwyliedig.”