Y cerddor Ceri Cunnington yn pledio'n euog i yfed a gyrru
Mae’r cerddor a’r actor Ceri Cunnington wedi ei wahardd rhag gyrru am 40 mis ar ôl pledio’n euog i gyhuddiad o yfed a gyrru.
Fe gafodd Mr Cunnington, 48 oed, lleisydd y band Anweledig, ei arestio ar 27 Chwefror eleni ym Maentwrog, Gwynedd.
Clywodd y llys fod Mr Cunnington yn gyrru VW Golf ar y pryd a bod prawf alcohol wedi cofnodi ei fod â 107 microgram o alcohol i bob 100 mililitr o anadl.
Y terfyn cyfreithiol yw 35 microgram bob 100 microgram, sy’n golygu fod Cunnington deirgwaith dros y terfyn.
Dywedodd yr erlyniad fod cerbyd Mr Cunnington yn cael ei yrru mewn modd oedd yn ymddangos fod “pobl yn dawnsio hefo boteli yn eu dwylo.”
Ar ôl cael ei stopio gan yr heddlu, fe wnaeth Cunnington gyfaddef ei fod dros y terfyn alcohol cyfreithiol.
Clywodd y llys ei fod wedi dioddef profedigaeth ddeuddydd cyn y drosedd ar ôl colli cyd-weithiwr oedd wedi’i ddisgrifio fel “ffigwr tadol” iddo.
Roedd hefyd wedi dioddef rhai problemau iechyd meddwl, ac roedd yn gaeth i gamblo, oedd wedi cyfrannu at gyflwr ei iechyd meddwl.
'Penderfyniad ffôl'
Yn ei amddiffyn, dywedodd Carys Parry: “Mi wnaeth o benderfyniad ffôl i brynu dwy botel o seidr cryf, parcio mewn layby ag yfad y seidr. Fe wnaeth o gysylltu efo ffrind odd ‘yr un mor wirion â fi’, a’i gasglu fo o Borthmadog.
“Mae o’n difaru’n llwyr am y penderfyniad ffôl yna nath o ar 27 Chwefror ac mae o’n trio deall pam nath o neud y penderfyniadau yna.
“Mae’n dweud doedd o methu delio efo’r teimladau, yn bennaf oherwydd y golled o rywun oedd yn agos ato, ac mae o wedi troi at alcohol er mwyn cuddiad o’r teimladau 'di o ddim yn gallu delio efo nhw.
“Mae o wedi cydymffurfio efo’r heddlu, stopio’n syth, dod allan o’r car yn syth, mi oedd o’n sylweddoli ei fod o dros y trothwy.”
Fe wnaeth Cunnington wadu ei fod yn dawnsio wrth y llyw, ond fod y car yn ymddangos yn “afreolaidd” oherwydd nam ar y cerbyd.
Wrth gael ei ddedfrydu, fe wnaeth yr ynadon ystyried ei hanes troseddu, gan gynnwys euogfarn yn 2021 am yrru dan ddylanwad cyffuriau. Cafodd waharddiad o 24 mis rhag gyrru yn sgil y drosedd honno, ac roedd yn rhaid ystyried gwaharddiad hirach y tro hwn.
Fe benderfynodd yr ynadon i osod gwaharddiad o 40 mis y tro hwn.
Fe fydd y gwaharddiad yn cael ei gwtogi os yw Cunnington yn cwblhau cwrs ymwybyddiaeth yfed a gyrru cyn 24 Awst 2027.
Fe dderbyniodd orchymyn cymunedol am 12 mis, a bydd yn rhaid iddo gwblhau 20 diwrnod o ddyddiau adfer.
Bydd angen iddo hefyd dalu £199 mewn costau.