Porthmadog: Postmon yn y llys ar gyhuddiad o atal pecyn post
Mae postmon o Borthmadog wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o atal pecyn post yn fwriadol yn ystod ei drosglwyddo drwy'r post.
Fe wnaeth Tommie Collins, 61 oed o Stryd Dora, Porthmadog, ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Llun wedi’i gyhuddo o oedi neu atal post/agor parsel.
Fe blediodd yn ddi-euog i’r drosedd.
Cafodd Mr Collins ei ryddhau ar fechnïaeth yn ddi-amod.
Fe fydd yr achos yn cael ei glywed yn Llys y Goron Caernarfon ar 28 Ebrill.