Newyddion S4C

Yr Aifft: Chwech o bobl wedi marw mewn llong danfor

27/03/2025
Llong danfor Sinbad

Mae chwech o bobl wedi marw mewn llong danfor yn y Môr Coch yn yr Aifft.

Dywed llywodraethwr ardal y Môr Coch fod chwech o dwristiaid wedi marw a 39 arall wedi’u hachub ar ôl y digwyddiad oddi ar arfordir dinas Hurghada yn gynnar ddydd Iau.

Dywedodd Amr Hanafy fod yr awdurdodau’n ymchwilio i achos y ddamwain ond nad oedd gwybodaeth eto am yr hyn achosodd y digwyddiad.

Roedd dros 40 o deithwyr ar fwrdd y llong danfor.

Dywedodd llysgenhadaeth Moscow yn yr Aifft fod y rhai a fu farw yn dod o Rwsia, gan gynnwys dau blentyn.

Fe suddodd y llong, o'r enw Sindbad, yn agos at yr harbwr, yn ôl adroddiadau.

Dyma’r ail ddigwyddiad yn y Môr Coch mewn chwe mis.

Ym mis Tachwedd y llynedd fe suddodd llong Sea Story yno gyda 40 o bobl ar ei bwrdd ger Marsa Allam. 

Mae 11 o bobl yn dal ar goll neu wedi eu tybio’n farw gan gynnwys pâr o Brydain.

Llun: Sindbad Submarine

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.