Newyddion S4C

Rhyddhau dyn yn ddigyhuddiad wedi marwolaeth tri mewn tân

Tân Kettering

Mae dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i dri o bobl farw, gan gynnwys merch bedair oed, yn dilyn tân mewn tŷ hanesyddol yn Sir Northampton wedi cael ei ryddhau yn ddigyhuddiad.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r tŷ yn Beswick Close yn Rushton, ger Kettering, am tua 22.30 nos Wener yn dilyn adroddiadau bod tân mawr yno.

Dywedodd Heddlu Sir Northampton ddydd Sul bod merch bedair oed, dynes 30 oed a dyn 23 oed wedi marw yn y tân.

Cafodd y dyn 54 oed a gafodd ei arestio ei gadw yn y ddalfa ddydd Sadwrn ond mae bellach wedi’i "ryddhau heb unrhyw gamau pellach", meddai’r llu.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Ruby Burrow, o Uned Gweithrediadau Arbennig Dwyrain Canolbarth Lloegr: "Mae’n iawn bod digwyddiad fel hwn yn cael ei drin gyda’r difrifoldeb mwyaf.

"Ar ôl archwilio’r wybodaeth sydd ar gael yn drylwyr, nid ydym yn credu bod unrhyw dystiolaeth o gamwedd troseddol ar hyn o bryd.

"O ganlyniad mae'r dyn gafodd ei arestio wedi ei ryddhau yn ddigyhuddiad a bydd nawr yn cael ei gefnogi gan swyddogion arbenigol wrth iddo barhau i gynorthwyo'r tîm ymchwilio."

Ychwanegodd: "Mae hon yn sefyllfa dorcalonnus.

"Mae fy meddyliau i, a rhai pawb sy’n ymwneud â'r ymateb i’r tân hwn, gyda’r bobl a fu farw a’r rhai sy’n eu caru."

Mae lluniau o’r safle’n dangos twll mawr wedi’i losgi trwy do’r adeilad, oedd yn hen dŷ gorsaf feistr o’r 19eg ganrif yng ngorsaf reilffordd Glendon a Rushton sydd bellach wedi cau.

Mae’n adeilad rhestredig Gradd II, yn ôl gwefan Historic England, a'r gred yw ei fod bellach yn eiddo preswyl.

Cafodd tri heddwas eu cludo i'r ysbyty o ganlyniad i effeithiau anadlu mwg, ychwanegodd y llu.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.