Newyddion S4C

'No wê! Dwi'n ffan o Lerpwl!': Atgofion 'Kelvin Walsh' o'i briodas yn Goodison Park

'No wê! Dwi'n ffan o Lerpwl!': Atgofion 'Kelvin Walsh' o'i briodas yn Goodison Park

Am 132 o flynyddoedd mae Goodison Park wedi bod yn gartref i glwb pêl-droed Everton, ac yn rhan fach o'r hanes hwnnw mae cyfres Rownd a Rownd.

Dyma'r stadiwm sydd wedi cynnal y nifer fwyaf o gemau yn yr Uwch Gynghrair, ac yn 2008 fe wnaeth actorion Rownd a Rownd ffilmio pennod yn y stadiwm yn Lerpwl.

Priodas cymeriadau Kelvin a Mari oedd y digwyddiad gyda rhai o gymeriadau amlyca'r gyfres fel Ken, Kay, Terry a Vince yn cymryd rhan yn y bennod gofiadwy.

Wrth i Everton chwarae eu gemau olaf yn Goodison cyn symud i'w stadiwm newydd ar lan yr afon Mersi, mae dau o'r actorion wedi rhannu eu hatgofion am y diwrnod.

Coch nid glas

Er bod Kelvin yn gefnogwr brwd o Everton ar y gyfres, mae Kevin Williams sydd yn chwarae'r cymeriad yn gefnogwr mawr o Lerpwl.

“Pan nesh i glywad bod ni’n mynd yna i ddechra’ o’n i fatha ‘o no wê - dwi’n supportio Lerpwl ‘llu’,” meddai wrth Newyddion S4C

"Ond ar ôl cael mynd o’dd o’n brofiad reit, reit dda i ddweud y gwir achos dwi’n meddwl hwnna o’dd y tro cynta’ i fi fod mewn stadiwm ffwtbol.

"Mae o’n un o’r rhai goreuon i ddeud y gwir achos o ran profiad cael mynd i rywla fel’a, o’dd o’n braf cael mynd i rywla gwahanol a wedyn dim yn aml ti’n cael deud bo’ chdi ‘di priodi, wel dim ‘di priodi go iawn ’llu, ond actio ‘tha bo chdi ’di priodi mewn stadiwm ffwtbol naci? 

“So mae o reit uchal i fyny ‘na i ddeud y gwir."

Image
Priodas Kelvin a Mari yn Stadiwm Goodison Park
Kelvin, Mari a'u teuluoedd wedi'r briodas. Llun: Rownd a Rownd

Dywedodd Kevin fod un o aelodau staff y gyfres wedi dweud y dylai wisgo crys Lerpwl ar y diwrnod yr oedden nhw'n teithio i'r stadiwm.

“Dwi’n cofio gesh i un o’r pobl o’dd yn gweithio efo ni ar Rownd a Rownd ‘llu yn deud ‘ei gwranda, ti’m digon o foi i wisgo crys Lerpwl i fynd i cae Everton’.

“A dwi’n cofio cerad i mewn i’r stadiwm a nath y person cynta’ neshi weld deud ‘are you serious?’ medda fo. ‘What?’ medda fi. ‘You’re not wearing that shirt coming in this field’.

“So o’n i‘n goro’ rhoid top drosto fo. O’dd huna reit doniol ‘wan deud gwir.”

'Gwirion'

Yn y bennod mae'r cymeriadau yn cael cyfle i fynd i ystafelloedd newid Everton, lle mae Kelvin wedi gwirioni gyda chrysau'r chwaraewyr fel Phil Neville, Andy Johnson a Tim Cahill.

Hefyd mae rhai o'r cymeriadau yn ceisio mentro tu allan i'r cae, er nad oedd modd iddyn nhw wneud hynny gan fod y clwb yn hadu'r cae y diwrnod hwnnw.

Fe gafodd yr actorion gyfle i gerdded i lawr y twnnel i'r cae a sefyll lle byddai'r rheolwr David Moyes wedi arwain ei dîm yn ystod gemau.

Dywedodd Idris Morris Jones, sydd yn chwarae cymeriad Ken, ei fod yn rhywbeth unigryw i briodi mewn stadiwm pêl-droed.

“Wel ma’ deulu fatha y K’s yn mynd i rywla fatha Goodison i gael priodas o’dd o’n, o’dd o’n beth mawr ‘de ti’n gwbod?” meddai.

“A bod ni’n mentro neud rwbath mor wirion a mor exciting fel teulu ‘de ti’n gwbod? O’dd o’n lot o hwyl.

“Gatho ni groeso cynnes ofnadwy ganddyn nhw, oddanw’n ffeind iawn wrtha’ ni.

“O’dd sbïo ar y clipia’ yn dod a lot o atgofion ‘nôl. O’na ddarna’ ohona fo do‘n i’m yn cofio neud o gwbl.

“Dwi erioed wedi clywad am neb arall yn priodi mewn cae pêl-droed i fod yn onast, wedyn oedd o’n reit unigryw."

Prif lun: Rownd a Rownd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.