
'Fi ffaelu credu fe!': Rose Datta yw enillydd Y Llais 2025
Y gantores a'r gyfansoddwraig Rose Datta o Gaerdydd yw enillydd cyfres Y Llais 2025.
Cafodd prif leisydd y band Taran, a oedd yn cynrychioli Tîm Aleighcia Scott yn y gystadleuaeth, ei choroni'n enillydd yn ffeinal y gyfres nos Sul.
Y tri arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd Anna Arrieta o Borthcawl yn cynrychioli Tîm Yws Gwynedd, Liam J. Edwards o Gorseinon fel rhan o Dîm Bronwen Lewis a Sara Owen o Carmel yn cynrychioli Tîm Syr Bryn Terfel.
Fel rhan o’r ffeinal, mi wnaeth y pedwar ganu deuawd gyda’u Hyfforddwyr ble ymunodd Rose ag Aleighcia am berfformiad cofiadwy o Neb Na Dim (Ain’t Nobody gan y canwr Americanaidd Chaka Khan).
"Fi’n teimlo’n hollol gobsmacked!" meddai Rose.
"Fi wedi cael profiad anhygoel fan hyn – fi byth yn mynd i anghofio fe a dwi wedi bod mor ffodus i fod o gwmpas pobl mor neis a charedig, a gwneud ffrindiau mor dda trwy’r holl broses – a fi jyst ffaelu credu fe!"
Ychwanegodd: "Pob tro fi ar lwyfan, mae jest yn neud i fi deimlo'n fulfilled. Fi wedi caru canu ers i fi fod yn blentyn ifanc – pob cyfle sy’n galluogi fi neud hynny fi’n mynd i gymryd e, yn bendant.
"Mae jest yn freuddwyd sydd wedi dod yn wir."
'Seren'
Dywedodd ei hyfforddwr Aleighcia Scott, sydd yn ddiweddar wedi cyrraedd brig siart Reggae iTunes, ei bod yn teimlo "mor falch" o Rose.
"Mae wedi bod yn anhygoel i weld hi’n tyfu yn y gystadleuaeth – yn ei gallu lleisiol, ei hyder – popeth. Dwi’n gwybod mai dim ond y dechrau yw hyn iddi.
"Dwi’n sicr yn gallu gweld hi fel seren yn teithio rownd y byd ac yn rhyddhau ei cherddoriaeth ei hun. Mae’n edrych fel seren a swnio fel seren."

Fel enillydd Y Llais, bydd Rose yn cael y cyfle i recordio sengl wreiddiol wedi ei chyd-gyfansoddi yn arbennig iddi.
Y gantores-gyfansoddwraig a’r seren West End Mared Williams, a’r cynhyrchydd a’r cerddor Nate Williams sydd wedi cyfansoddi'r sengl.
Fersiwn Gymraeg o’r gyfres deledu fyd-eang boblogaidd, The Voice, yw'r Llais a gafodd ei darlledu am y tro cyntaf ar S4C eleni.
Yn union fel The Voice, roedd y cystadleuwyr yn cymryd rhan mewn clyweliadau cudd, gyda hyfforddwyr profiadol yn penderfynu os ydyn nhw am droi eu cadeiriau drwy wrando ar y lleisiau yn unig.