Newyddion S4C

Richard Chamberlain, seren Dr Kildare a Shogun, wedi marw'n 90 oed

Richard Chamberlain

Mae Richard Chamberlain, seren y ddrama feddygol Dr Kildare a’r gyfres Shogun o'r 1980au wedi marw'n 90 oed.

Bu farw'r actor yn hwyr nos Sadwrn (10.15 ddydd Sul GMT) yn Waimanalo, Hawaii, ar ôl dioddef cymhlethdodau o strôc ychydig oriau cyn y byddai wedi troi’n 91 oed.

Mewn datganiad, dywedodd ei bartner, Martin Rabbett, ei fod yn "enaid anhygoel a chariadus".

"Mae ein hannwyl Richard gyda'r angylion nawr. Mae'n rhydd ac yn esgyn i gyfeiriad yr anwyliaid a ddaeth o'n blaenau," meddai.

"Nid yw cariad byth yn marw – ac mae ein cariad ni o dan ei adenydd, yn ei godi i'w antur fawr nesaf."

Daeth Chamberlain i'r amlwg fel actor ym 1961 ar ôl iddo chaware cymeriad Dr James Kildare yn y ddrama Dr Kildare

Fe wnaeth y rhaglen, sy'n seiliedig ar gyfres boblogaidd o ffilmiau o'r 1930au a'r 1940au, ddenu miliynau o wylwyr.

Yn dilyn hynny serennodd mewn nifer o gyfresi teledu bach yr 1980au, gan chwarae carcharor yn Shogun ac offeiriad Catholig yn The Thorn Birds.

Ni siaradodd yn gyhoeddus am ei rywioldeb tan iddo droi'n 70 oed, gan ddatgelu ei fod yn hoyw yn ei fywgraffiad 2003 Shattered Love

Roedd mewn perthynas 30 mlynedd gyda'r actor-gyfarwyddwr Rabbett, ac roedden nhw wedi cadw eu bywyd preifat yn gyfrinachol.

 
 
 
 
 
 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.