Newyddion S4C

Chwe Gwlad: Cyhoeddi carfan Cymru i herio Lloegr o flaen torf o 18,000

27/03/2025
Lisa Neumann yn rhedeg lawr yr asgell
Lisa Neumann

Fe fydd torf o 18,000 yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn i wylio Cymru yn herio Lloegr yn y Chwe Gwlad.

Dyma record newydd am faint torf i unrhyw ddigwyddiad chwaraeon merched yng Nghymru.

Ac fe fydd cefnogwyr Cymru'n gobeithio am ganlyniad gwell ar ôl y golled agos yn erbyn Yr Alban yn y gêm agoriadol.

Buddugoliaeth i Loegr yw’r canlyniad arferol yn y gêm hon, gan eu bod wedi ennill 20 allan o 22 o'r gemau diwethaf.

Felly mae gan Gymru fynydd sylweddol i'w ddringo bnawn Sadwrn, o gofio mai buddugoliaeth o 46-10 i Loegr oedd y canlyniad y llynedd.

Mae Cymru yn chwarae yn Stadiwm Principality am y pedwerydd tro ym Mhencampwriaethau Chwe Gwlad y Merched. 

Mae eu tair gêm flaenorol yn y stadiwm wedi bod yn erbyn yr Eidal, gan sicrhau buddugoliaethau yn 2012 a 2024, a dioddef colled yn 2018.

Y garfan

Mae Cymru, dan arweiniad y prif hyfforddwr newydd Sean Lynn a’r capten Hannah Jones, yn anelu at wella ar ôl tymor heriol yn 2024. 

Er gwaethaf colli o drwch blewyn yn erbyn yr Alban y penwythnos diwethaf, fe ddangoson nhw’r math o addewid y gellir adeiladu arno wrth iddyn nhw herio’r pencampwyr presennol o flaen torf enfawr gartref.

Y canolwr Hannah Jones fydd yn arwain y tîm unwaith eto a’i hîs-gapten fydd y mewnwr Keira Bevan.

Mae Sean Lynn wedi gwneud dau newid i’r tîm ddechreuodd y gêm yn Yr Alban y penwythnos diwethaf wrth iddo alw ar wasanaeth y prop Gwenllïan Pyrs a’r clo Gwen Crabb o’r cychwyn cyntaf.

Bydd Pyrs yn ymuno â’r bachwr Carys Phillips a’r prop arall Jenni Scoble yn y rheng flaen. Dyma fydd yr ail gêm i Scoble ddechrau ar y lefel rhyngwladol.

Bydd Crabb yn ymuno ag Abbie Fleming yn yr ail reng – tra bydd y rheng ôl yn aros yr un fath. 

Mae wythwr Cymru Georgia Evans yn dechrau i’r crysau cochion, er iddi dderbyn cerdyn coch yn gêm agoriadol y gystadleuaeth. Roedd panel disgyblu o'r farn bod y cerdyn coch yn gosb "ddigonol" gyda "dim sancsiwn pellach".

Dyma'r tîm fydd yn wynebu Lloegr:

15 Jasmine Joyce, 14 Lisa Neumann, 13 Hannah Jones, 12 Kayleigh Powell, 11 Carys Cox, 10 Lleucu George, 9 Keira Bevan. 1 Gwenllian Pyrs, 2 Carys Phillips, 3 Jenni Scoble, 4 Abbie Fleming, 5 Gwen Crabb, 6 Kate Williams, 7 Bethan Lewis, 8 Georgia Evans.

Eilyddion: 16 Kelsey Jones, 17 Maisie Davies, 18 Donna Rose , 19 Alaw Pyrs, 20 Bryonie King, 21 Meg Davies, 22 Courtney Keight, 23 Nel Metcalfe.

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.