Newyddion S4C

Patagonia: Llyfr newydd yn datgelu 'ochr dywyllach' hanes sefydlu’r Wladfa

27/03/2025
Dr Lucy Taylor

Bydd llyfr newydd yn datgelu “ochr dywyllach” i hanes sefydlu’r Wladfa, a hynny drwy herio’r “straeon confensiynol sydd mor gyfarwydd” i bobl Cymru. 

Yn ôl awdures Global Politics of Welsh Patagonia, nod y gyfrol yw cyflwyno hanes y Cymry ym Mhatagonia mewn ffordd sy’n fwy cyflawn. 

“Mae hanes sefydlu gwladfa Gymreig ym Mhatagonia yn 1865 yn gyfarwydd i bawb yng Nghymru,” meddai Dr Lucy Taylor o Brifysgol Aberystwyth. 

Ond mewn Cymru gyfoes "sy’n ceisio hyrwyddo polisïau gwrth-hiliaeth," maen rhaid "ail-edrych ar y naratif confensiynol," ychwanegodd. 

Gan ddefnyddio ffynonellau archifol Sbaeneg, Cymraeg a Saesneg, mae’r Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn herio’r syniad mai “cyfeillgarwch a harmoni yn unig” oedd sail y berthynas rhwng y Cymry a’r bobl frodorol. 

"Credaf fod yr amser wedi dod i ail-werthuso’n agored a gonest yr hyn y gellir ei ystyried yn ochr dywyllach i’r Wladfa,” meddai. 

Trwy roi llais i bobl frodorol y gorffennol, mae Dr Taylor yn gobeithio y bydd ei hymchwil yn gallu cyfrannu at y cwricwlwm hanes newydd yng Nghymru yn ogystal ag at drafodaethau ehangach ynghylch dad-drefedigaethu a gwrth-hiliaeth.

'Sefyllfa gymhleth Cymru'

Mae’r llyfr yn datgan yn glir na ddefnyddiodd y Cymry drais corfforol yn ystod y broses ymsefydlu. 

Ond yn ôl Dr Taylor, mae’r polisi heddychlon wedi’i ddathlu a’i ramantu’n aml – yn enwedig o’i gyferbynnu â’r defnydd o rym corfforol gan wladychwyr imperialaidd Prydeinig mewn rhannau eraill o’r byd.

“O ganlyniad, mae’r Wladfa nid yn unig wedi’i hystyried yn gyfreithlon ond mae wedi’i defnyddio fel ased, gan gyfrannu at strategaethau Cymreig ar gyfer gwrthsafiad diwylliannol ac adfywiad cymdeithasol gartref,” meddai. 

“Eto i gyd, does dim dwywaith bod Y Wladfa yn sylfaenol i brosiect adeiladu cenedl yr Ariannin ac, er efallai fod gan yr arloeswyr Cymreig ei hagenda ei hun, roedden nhw hefyd yn ffactor allweddol yn ymgyrch Llywodraeth yr Ariannin ar y pryd i feddiannu tiroedd brodorol, hawlio sofraniaeth a chyflwyno moderniaeth gyfalafol.” 

A hithau’n rhoi llais i bobl y Tehuelche a Mapuche yn ei llyfr, mae’n gobeithio annog ei darllenwyr i ystyried “sefyllfa gymhleth Cymru” fel cenedl oedd yn profi gwladychu gartref tra’n gwladychu ym Mhatagonia. 

Bydd digwyddiad arbennig i lansio’r gyfrol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar 2 Ebrill. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.