
Gwartheg Hynafol Cymru ar restr o fridiau dan fygythiad o ddiflannu
Mae brîd o wartheg Cymreig prin wedi ei ychwanegu i restr o fridiau sydd mewn perygl o ddiflannu.
Mae Brîd Gwartheg Hynafol Cymru, brîd sydd dros 1,000 oed, wedi ei ychwanegu i gategori blaenoriaeth rhestr ymddiriedolaeth y Rare Breeds Surivial Trust (RSBT), gan olygu bod angen gweithredu ar frys i sicrhau nad yw'n diflannu.
Dywedodd yr RBST bod gan yr anifail nodweddion gwerthfawr gan gynnwys bod yn frîd cig eidion economaidd sydd yn cynhyrchu bwyd o flas da.
Yn ogystal, mae'r brîd yn "rhagorol" ar gyfer cadw a gwella bioamrywiaeth tir pori mynyddig, sydd o ganlyniad yn helpu natur.
Ond bellach mae'r sefyllfa yn un hynod bryderus medd yr ymddiriedolaeth, gyda nifer y lloi sydd yn cael eu cofrestru yn gostwng a buchesi yn diflannu wedi i'w perchnogion ymddeol o ffermio.
Fe fydd yr ymddiriedolaeth a Chymdeithas Gwartheg Hynafol Cymru yn cydweithio er mwyn ceisio mynd i afael â'r sefyllfa.
'Gwirioneddol bryderus'
Mae'r math yma o fuches yn wahanol i rai arferol. Mae eu lliw yn amrywio o wyn gyda nodweddion du neu goch.
Hefyd mae ganddyn nhw glustiau mawr a blew trwchus.
Maen nhw'n dyddio 'nôl i'r 10fed ganrif yng Nghymru, sef yr adeg yr oedd Hywel Dda yn frenin ar y Deheubarth.
Roedd lliwiau arbennig yn dueddol o fod yn fwy poblogaidd mewn rhai ardaloedd, ond gostyngodd y niferoedd nes bod y brîd ond yn cael eu cadw a'u magu mewn ychydig o ffermydd mynydd anghysbell yn y wlad.

Dywedodd Prif Weithredwr yr RSBT, Christopher Price fod pryder mawr am nifer fach o'r lloi sydd yn cael eu cofrestru bellach.
“Mae Brîd Gwartheg Hynafol Cymru yn frîd gwerthfawr ar gyfer anghenion ffermio heddiw, yn ogystal ag ar gyfer eu gwerth unigryw," meddai.
“Fodd bynnag, bu gostyngiad gwirioneddol bryderus mewn cofrestriadau genedigaethau newydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn ogystal â nifer o fuchesi sydd wedi sefydlu yn cael eu diddymu ar ôl i’w perchnogion ymddeol.
“Mae’r brîd mewn sefyllfa ddifrifol ar hyn o bryd, ond mae RBST yn edrych ymlaen at weithio gyda Chymdeithas Gwartheg Hynafol Cymru i sicrhau sefyllfa fwy sefydlog.”
Ychwanegodd: “Yn y pen draw, rydyn ni am weld y brîd yn ffynnu eto. Gall y gwartheg hyn wneud cyfraniad allweddol i ffermio’r DU yn y dyfodol, lle mae cynhyrchu bwyd yn mynd law yn llaw â’r amgylchedd.”
Dywedodd Mike Lewis, cadeirydd Cymdeithas Gwartheg Hynafol Cymru ei fod yn “edrych ymlaen at weithio gyda RBST i barhau i hyrwyddo a gwarchod y brîd Cymreig arbennig hwn.”