Cast C'mon Midffîld yn cofio'r 'cynnwrf' o weithio gyda Mark Hughes
Mae rhai o gast C’mon Midffîld wedi dod at ei gilydd gan hel atgofion am y foment fythgofiadwy wnaeth un o gewri pêl-droed Cymru, Mark Hughes, serennu yn y gyfres.
Fel rhan o noson i ddathlu’r gyfres eiconig, mae John Pierce Jones, oedd yn chwarae rhan Arthur Picton, Bryn Fôn (‘Tecs), Sian Wheldon (Sandra) a Llion Williams (George) wedi bod trafod eu profiad o gydweithio gyda’r bêl droediwr byd enwog.
“Dwi’n cofio’r cynnwrf ar y set,” meddai Sian Wheldon.
“Da ni’n mynd nôl rŵan i ddiwedd yr 80au, dechrau’r 90au, a Mark Hughes oedd dyn y funud.”
Fel rhan o’r bennod arbennig fe wnaeth Mark Hughes, oedd yn chwarae fel ymosodwr i Manchester United a Chymru ar y pryd, ymddangos ar y cae er mwyn chwarae i dîm Bryncoch.
Dywedodd Bryn Fôn ei fod yn cofio’r cyfarwyddiadau a gafodd ef gan Alun Ffred Jones, cyd-gyfarwyddwr y rhaglen gyda Mei Jones, ar y pryd.
“Y cyfarwyddiad gesh i gan Ffred – odd o ‘di deutha fo, ‘Go on, go around as many people as you can and score a goal.’
“A dyma fo’n troi ata fi a deud, ‘A beth bynnag nei di, paid trio safio hi’… Fel oedd gynna fi unrhyw siawns o safio hi – Tecs y goalie salaf yn y byd!”
Dywedodd y cyflwynydd Sgorio, Dylan Ebenezer: "Mae e fel cael Gareth Bale, neu Harry Kane neu Mbappe. Roedd Mark Hughes mor enwog yn y cyfnod yna."
'Starstruck'
Dywedodd y cast nad oedden nhw’n medru coelio eu bod nhw’n cydweithio gyda Hughes – gyda rhai yn teimlo’n “starstruck” wedi’r profiad.
Esboniodd Llion Williams: “Y stori yn y bennod oedd ‘na ryw gytundeb ‘di neud efo’r gweinidog lleol bod ni’n cael chwarae’r gêm ar ddydd Diolchgarwch, cyn belled bod ni’n dod a Mark Hughes hefo ni i’r gymanfa yn y capel yn y nos.
“Odd na deal, doedd,” meddai Sian Wheldon.
Ychwanegodd: “Wali oedd yn eistedd reit drws nesa iddo fo a wedyn fi. A dwi’n cofio fi yn tipyn bach o starstruck ag yn gofyn fo, ‘Can I have your autograph, please?’
“Ag ar daflen y gymanfa ganu mi nath o sgwennu, ‘Mark Hughes.’”
“O’n i methu coelio eistedd yn Penallt yn cael cinio efo Mark Hughes yn eistedd wrth yn ochr i. O’n i jyst fatha – byth ‘di coelio,” meddai Bryn Fôn.
Bydd modd gwylio Yn Ôl i Midffîld ar Youtube S4C a BBC Sounds am 14.00 ddydd Iau.