Ceidwadwyr yn ymddiswyddo o bwyllgor Covid mewn protest
Mae'r Ceidwadwyr wedi ymddiswyddo o bwyllgor y Senedd i drafod effeithiau Covid, wedi i aelodau Llafur wrthod galwadau i glywed tystiolaeth o dan lw.
Pleidleisiodd aelodau'r Senedd ddydd Mercher o 24-23 yn erbyn cynnig i wahodd tystion i'r pwyllgor i gymryd llw. Roedd y cynnig wedi cael cefnogaeth Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, yn ogystal a'r Ceidwadwyr.
Yn syth wedi'r bleidlais, cyhoeddodd cyd-gadeirydd y pwyllgor, y Ceidwadwr Tom Giffard, ei fod yn ymddiswyddo.
"Heb i dystion fod angen cymryd llw, mae'r pwyllgor wedi dod yn siop siarad ddi-bwrpas," meddai.
"Rwy'n gwrthod bod yn ran o broses sy'n methu rhoi'r atebion i'r cyhoedd mae nhw'n eu haeddu."
Cafodd y pwyllgor ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi gwrthod galwadau am ymchwiliad cyhoeddus yn benodol i Gymru am effeithiau Covid.
Cyhoeddodd y pwyllgor adroddiad yr wythnos yma ynglŷn â'r bylchau yn yr ymchwiliad i Covid sy'n cael ei gynnal ar gyfer y D.U gyfan.
Yn ystod y drafodaeth yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Mabon ap Gwynfor ar ran Plaid Cymru ei fod yn cefnogi'r syniad o ymchwiliad yn benodol i Gymru.
"Heb dystiolaeth gywir ffeithiol, mae'n amhosib dysgu'r gwersi cywir; ac yn bwysicach, mae 'na berygl o ddysgu'r gwersi anghywir," meddai.
Ond ar ran Llafur, dywedodd Jane Hutt fod Llywodraeth Cymru wedi ymroi i ddysgu gwersi o'r pandemic, ond mai ymchwiliad i'r D.U cyfan oedd yr unig ffordd i gael atebion.
Dywedodd y byddai disgwyl i dystion i'r pwyllgor gymryd llw "yn amlwg yn annerbyniol ac amhriodol."
Wedi'r bleidlais, dywedodd arweinydd y mudiad dros deuluoedd gollodd anwyliaid yn ystod Covid yng Nghymru, Anna-Louise Marsh-Rees, ei fod yn "ddiwrnod trist".
"Mae'n rhaid i leisiau yr anwyliaid rydym ni wedi golli gael eu clywed, c mae'n rhaid i'w marwolawthau fod yn destun ymchwiliad."
Ychwanegodd :"Dyw'r frwydr ddim drosodd."