Gweithiwr Yodel o Benmachno yn cyfaddef dwyn gwerth £5,000 o barseli
Mae llys wedi clywed bod dyn o sir Conwy wedi dwyn £5,000 gwerth o barseli tra roedd yn gweithio i gwmni Yodel.
Plediodd Kevin O’Callaghan, 55 oed o Stryd Llewelyn, Penmachno yn euog i ddwyn parseli oedd yn cynnwys ffonau symudol, tabledi a watshys clyfar.
Cafodd ei ddedfrydu i wyth wythnos o garchar wedi’i ohirio am flwyddyn.
Bydd yn rhaid iddo dderbyn cymorth i'w helpu rhoi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau, a cafodd orchymyn i dalu £239 mewn costau.
Dywedodd y barnwr rhanbarth Rhys Williams wrtho ei fod wedi dwyn “sawl eitem werthfawr dros gyfnod hirdymor.”
Dywedodd cyfreithiwr Mr O’Callaghan, Huw Roberts, bod diwedd perthynas wedi’i “daro’n galed” yn ddiweddar.
“Dydi o ddim yn gallu egluro ei ymddygiad mewn gwirionedd… roedd yn foment o wallgofrwydd aeth o ddrwg i waeth."”
Dywedodd yr erlynydd Rebecca Ross fod swyddogion diogelwch o gwmni parseli Yodel wedi dechrau monitro Mr O’Callaghan ar ôl i barseli fynd ar goll.
Llun: Mtaylor848/Wikipedia