Newyddion S4C

Y wasgfa ar gostau byw: Profiadau pobl Dyffryn Nantlle

Newyddion S4C 26/03/2025

Y wasgfa ar gostau byw: Profiadau pobl Dyffryn Nantlle

Gydag ystadegau'n awgrymu y bydd degau o filoedd yn fwy o bobl yn diodde tlodi yn sgil datganiad y Canghellor Rachel Reeves ddydd Mercher, mewn sawl rhan o Gymru mae cymunedau eisoes yn teimlo’r wasgfa.

Gyda’r stoc dai yn hŷn, sy’n golygu nad ydyn nhw’n cadw gwres, mae sir Gwynedd ac ardal Arfon o blith y gwaethaf yng Nghymru i ddioddef tlodi tanwydd.

Yn ôl gwaith ymchwil mae trafnidiaeth gyhoeddus, bwyd, tanwydd a gofal plant oll yn ddrytach a nifer yn gweld hi’n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd.

Yn ardal Dyffryn Nantlle mae sawl cynllun ar y gweill i geisio helpu unigolion sy’n profi cyfnodau heriol ond er gwaetha hyn mae nifer yn dal i brofi sgil effeithiau’r argyfwng costau byw.

Mae Stephanie O’Neill yn fam sengl i ddau o blant, y fengaf yn ddwy oed.

Costau uchel

Wedi symud o ardal Blaenau Ffestiniog, mae hi bellach yn byw ym Mhenygroes ac yn dweud nad yw hi’n bosib iddi weithio ar hyn o bryd gan bod costau gofal plant mor uchel.

“Mae childcare yn ridiculous.. 'swn i’n mynd i gwaith jyst i dalu cyflog rhywun arall”, meddai.

“Dwi'n single mother i ddau o blant efo no money.

Image
Stephanie O'Neill
Mae Stephanie O'Neill yn fam sengl ac yn dweud bod chwyddiant yn cael effaith enfawr

“Dwi’m yn gwybod sut mae rheini eraill yn gwneud o... on i goro rhoi fyny gwaith.

“Dwi jest gorfod ffigro allan sut i gael mwy o incwm.”

Yn ôl Stephanie, dydi gweithio ar hyn o bryd, gyda’r plant yn ifanc, ddim yn opsiwn ac mae'n dweud bod chwyddiant a phrisiau bob dim yn codi yn cael effaith enfawr.

“Mae gas ac electric fi  fatha £260 a month, ma’n mental,” meddai.

“Dwi’m yn gwybod sut mae pobl yn gallu dweud bod yr hyn ti’n ei gael ar minimum wage, bo’ ti’n gallu byw... oherwydd ti ddim. Ti’n scrapio.”

Ac mae chwyddiant i'w weld yn cael effaith ar bob cenhedlaeth.

'Methu fforddio bwyd iach'

Yn ôl Betty Williams, sy’n derbyn ei phensiwn, mae hi wedi gorfod gwneud toriadau er mwyn gwneud arbedion.

“Dwi 'di torri ar bob dim a deud y gwir,” meddai.

Image
Betty Williams
Mae Betty Williams yn poeni am fforddio bwyd iach

“Mae bwyd 'di mynd allan o bob reolaeth, fedra rhywun ddim fforddio bwyd iach mwyach.

“Mae ffrwytha di mynd a phrisiau di mynd drwy’r to.

“Dio’m yn hawdd ac i feddwl bod rhywun wedi gweithio ar hyd eu hoes.

“On i’n meddwl bod ni ‘di cael ein magu’n dlawd adeg y rhyfel ond ma’n mynd yn waeth ar y generation nesa.”

Wrth aros am fws yng nghanol Penygroes mae Osian Piercy, sydd yn ei ugeiniau, yn dweud bod o hefyd yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd. Mae o'n credu fod y sefyllfa yn fwy difrifol yn y rhan hwn o Gymru.

“Mae’n anodd i bobl ifanc ffeindio swyddi yma a hefyd anodd i maintainio swydd da hefyd oherwydd bod o’n fwy seasonal,” meddai.

Image
Osian Piercy
Mae Osian Piercy wedi symud yn ôl at ei fam er mwyn ceisio arbed arian

“Dwi’n meddwl 'sa fwy yn gallu cael ei wneud.

“Ma’n anodd ffeindio gwaith steady ac eto ffeindio pres i ddod mewn yn steady ac mae’n gallu bod yn challenge ynddo’i hun.”

Mae’n dweud bod o bellach wedi symud yn ôl at ei fam er mwyn ceisio arbed pres i brynu tŷ, ac yn disgrifio’r broses o gynilo a fforddio tŷ fel un anodd iawn.

Dweud mae Llywodraeth Prydain y bydd datganiad y Gwanwyn yn sicrhau bod cyfrifon yn cydbwyso a bod tyfiant chwyddiant yn gostwng.

Ond i gymunedau fel yr un yma mae’r wasgfa ariannol i’w theimlo’n arw.

Mae’r argyfwng costau byw'n effeithio ar gymunedau ar hyd a lled Cymru a phobl yma yn galw am newid y dref ac ar y llywodraeth am gymorth. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.