Dedfrydu dau o Loegr am ddwyn offer gwerth £12,500 o faniau yn Sir Gâr a Phowys
Mae dau ddyn o Loegr wedi cael eu dedfrydu am ddwyn offer gwerth dros £12,500 o faniau yn Sir Gâr a Phowys.
Fe wnaeth Aston Amos, 35, a Robbie Bate, 27, y ddau o Sir Gaerwrangon, gyfaddef i ddwyn offer o bum cerbyd yn Aberhonddu, Llanfair-ym-Muallt, Castellnewydd Emlyn a Llandysul dros nos ar 16 a 23 Gorffennaf.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn credu bod cyfanswm gwerth yr offer a gafodd ei ddwyn yn £12,500.
Mae colli'r offer yma a difrod i dri o'r faniau hefyd wedi effeithio ar allu'r perchnogion i weithio, meddai'r llu.
Yn ôl ymchwiliadau roedd yr un cerbyd wedi'i weld ym mhob ardal ar yr adegau y rhoddwyd gwybod am y lladradau.
Wrth i'r ymchwiliad ddatblygu, daeth yr heddlu i wybod bod Bate – partner perchennog y car – hefyd wedi aros mewn gwesty yn San Clêr ar 23 Gorffennaf, gan roi rhif cofrestru'r cerbyd yma.
Cafodd ei weld yng nghwmni Amos, a oedd ar dag monitro ar y pryd a oedd yn caniatáu i swyddogion ddefnyddio data lleoliad GPS i brofi ei fod yn ardaloedd y troseddau ar yr adegau perthnasol.
Cafodd y ddau eu harestio a'u cyhuddo o bum achos o ddwyn o gerbydau a dau achos o achosi difrod troseddol.
Ar ôl pledio'n euog, cafodd Amos ei ddedfrydu i naw mis o garchar, tra bod Bate wedi ei ddedfrydu i naw mis o garchar wedi'i ohirio am ddwy flynedd, 160 awr o wasanaeth cymunedol, a cyrffyw am 12 wythnos.
Dywedodd y swyddog DC Carl Thomas: "Daeth Amos a Bate i ardal Dyfed-Powys gyda’r nod o dargedu faniau a allai gynnwys offer gwerthfawr, gan weithio eu ffordd trwy ddwy sir i gaffael nifer fawr o eitemau.
"Diolch byth rydym wedi gallu adennill rhai o’r eitemau a gafodd eu dwyn i’r dioddefwyr, fodd bynnag, bydd y lladradau hyn yn dal i achosi colled incwm ac anghyfleustra i’r rhai sydd wedi eu heffeithio."
Ychwanegodd: "Rwy’n gobeithio y bydd canlyniad yr ymchwiliad yma yn anfon y neges ein bod yn cymryd y mathau hyn o ddigwyddiadau o ddifrif, a byddwn yn gweithio ar y cyd i ddwyn troseddwyr gerbron y llys."