
Newidiadau budd-dal y Canghellor 'i wthio 250,000 yn rhagor i dlodi'
Newidiadau budd-dal y Canghellor 'i wthio 250,000 yn rhagor i dlodi'
Mae asesiad o doriadau i fudd-daliadau lles diweddaraf Llywodraeth y DU yn awgrymu y bydd yn gadael chwarter miliwn yn fwy o bobl, gan gynnwys 50,000 o blant, mewn tlodi erbyn diwedd y ddegawd hon.
Mae canfyddiadau'r asesiad effaith yn dod o waith ymchwil y llywodraeth ei hun.
Wrth gyhoeddi manylion Datganiad y Gwanwyn i aelodau seneddol ddydd Mercher, dywedodd y Canghellor Rachel Reeves fod yn rhaid i’r system fudd-daliadau lles newid a helpu mwy o bobl i mewn i waith.
Roedd tynhau'r rheolau am y cymhwyster ar gyfer y prif daliad annibyniaeth bersonol budd-dal anabledd (Pip) a newidiadau i elfen salwch y Credyd Cynhwysol eisoes wedi denu beirniadaeth gan elusennau oedd wedi galw ar y llywodraeth i ailfeddwl.
Ond ddydd Mercher, cadarnhaodd Rachel Reeves hefyd y bydd budd-daliadau iechyd Credyd Cynhwysol ar gyfer ceisiadau newydd yn cael eu haneru yn 2026 ac yna'n cael eu rhewi tan 2030.

Yn ôl yr asesiad effaith i’r effeithiau posib o newid y budd-daliadau, a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ddydd Mercher,“bydd 250,000 o bobl ychwanegol (gan gynnwys 50,000 o blant) mewn tlodi cymharol ar ôl costau tai yn 2029/30 o ganlyniad i newidiadau...o gymharu â’r rhagamcanion sylfaenol”.
Mae'r ffigurau'n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban.
Dywedodd Ruth Curtice, prif weithredwr melin drafod y Resolution Foundation, er bod “angen diwygio budd-daliadau iechyd ac anabledd, mae maint a natur munud olaf llawer o’r newidiadau a gyhoeddwyd heddiw yn awgrymu bod newid hirdymor yn dod yn ail i arbedion tymor byr”.
Rhybuddiodd am yr angen am gamau i ddiogelu'r rhai sy’n wynebu “sioc incwm” o ganlyniad i'r newidiadau.
Dywedodd: “Mae’r hwb i gymorth diweithdra i’w groesawu ac yn hen bryd, ac fe ddylai gau’r bwlch rhwng cymorth safonol a chymorth sy’n gysylltiedig ag iechyd gan annog mwy o bobl i mewn i waith.
“Ond bydd angen i’r llywodraeth droedio’n ofalus iawn gyda diwygiadau i fudd-daliadau anabledd, gan gynnwys mesurau lliniaru cam wrth gam i’r rhai sydd mewn perygl o gael sioc incwm, yn anad dim gan fod asesiad (y llywodraeth) ei hun yn awgrymu y bydd y mesurau hyn yn gwthio chwarter miliwn o bobl o dan y llinell dlodi.”
'Niweidio pobl'
Dywedodd Paul Kissack, prif weithredwr Sefydliad Joseph Rowntree: “Dywedodd y Canghellor heddiw na fyddai’n gwneud unrhyw beth i roi cyllid cartrefi mewn perygl, ac eto mae asesiad y llywodraeth ei hun yn dangos bod eu toriadau i fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag iechyd mewn perygl o wthio 250,000 o bobl i dlodi, gan gynnwys 50,000 o blant.
“Bydd hyn yn niweidio pobol, gan ddyfnhau’r caledi maen nhw eisoes yn ei wynebu.”
Mae elusennau wedi adrodd am gynnydd mewn galwadau am gymorth a chyngor yn dilyn cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau yr wythnos diwethaf.
Llai o dwf
Yn ogystal, dywedodd y Canghellor fod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn disgwyl i'r economi dyfu llawer llai na'r disgwyl yn 2025 - o 1% yn hytrach na'r rhagolwg gwreiddiol o 2%.
“Nid wyf yn fodlon â’r rhifau hyn,” meddai, gan ychwanegu fod y llywodraeth “o ddifrif ynglŷn â chymryd y camau sydd eu hangen i dyfu ein heconomi”.
Ond roedd rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn awgrymu twf mewn blynyddoedd i ddod i'r economi, meddai - o 1.9% yn 2026, 1.8% yn 2027, 1.7% yn 2028, ac 1.8% yn 2029.