Cau traeth yng Ngheredigion wedi pryder am 'ddyfais ffrwydrol'
Cafodd un o draethau mwyaf poblogaidd Ceredigion ei gau i ymwelwyr am gyfnod ddydd Mercher yn dilyn pryderon fod hen ddyfais ffrwydrol wedi’i ganfod yno.
Roedd traeth Tresaith ger Aberporth ar gau i’r cyhoedd am gyfnod, meddai’r heddlu.
Fe wnaeth aelod o’r cyhoedd gysylltu â’r llu am 11.45 fore Mercher ar ôl dod o hyd i wrthrych oedd yn debyg i hen ddyfais ffrwydrol.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod swyddogion wedi aros yn yr ardal nes i’r tîm arbenigol sy’n delio gyda dyfeisiau ffrwydrol ymateb i’r sefyllfa.
Roedd cais i bobl i beidio ag ymweld â’r ardal am gyfnod, ond cafodd y traeth ei ailagor ar ddiwedd y prynhawn.
Llun: Graham Thomson/Wikimedia Commons