9,000 o bobl yn aros yn rhy hir am driniaeth canser: Elusennau'n galw am welliannau
Mae elusennau canser Cymru wedi galw am welliannau wedi iddi ddod i'r amlwg fod 9,000 o bobl wedi aros yn rhy hir am driniaeth y llynedd.
Dywedodd nifer o fudiadau wrth aelodau o'r Senedd ddydd Mercher fod angen strategaeth cenedlaethol tymor hir er mwyn mynd i'r afael a'r broblem.
Roedden nhw'n ymateb i adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru yn gynharach eleni yn dangos nad oedd miloedd o bobl oedd yn diodde o ganser wedi dechrau eu triniaeth o fewn 62 diwrnod i'w diagnosis. Does 'na'r un bwrdd iechyd wedi cyrraedd y targed o sicrhau bod 75% o gleifion yn dechrau eu triniaeth o fewn y cyfnod yna ers 2020.
Dywedodd Lowri Griffiths, cyfarwyddwr polisi Tenovus, wrth bwyllgor cyfrifon cyhoeddus y Senedd ei bod hi wedi ei thristhau a'i siomi gan yr adroddiad.
Beirniadodd Lywodraeth Cymru am "gymryd oes" i ymateb i argymhelliad y Swyddfa Archwilio i sefydlu rhaglen sgrinio ysgyfaint cenedlaethol.
A dywedodd Hannah Buckingham o fudiad Macmillan fod yr ystadegau'n dangos nad oedd y system yn gallu cadw fyny gyda'r galw.
"Yn 2024 fe welson ni 9,000 o bobl ledled Cymru'n aros rhy hir i ddechrau eu triniaeth o fewn 62 diwrnod, a dyw hynny jest ddim digon da," meddai.
Dywedodd Lauren Marks o elusen Young Lives vs Cancer nad oedd y rhaglen gwelliant canser yn cymryd digon o ystyriaeth o anghenion pobl ifanc sy'n diodde.
Dywedodd fod teithio i gael triniaeth yn broblem fawr i bobl ifanc, gyda llawer yn methu neu'n gohirio apwyntiadau oherwydd costau.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn canolbwyntio'n llwyr ar weithio gyda'r GIG i wella mynediad at ddiagnosis a thriniaeth fel rhan o'n targed i 75% o bobl sy'n cael diagnosis ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod o'r amheuaeth gyntaf am eu canser.
“Rydym hefyd yn adolygu ein trefniadau arweinyddiaeth canser cenedlaethol i ddarparu cyfeiriad cliriach a chryfach ar gyfer gwella canser.”