Norofeirws: Ymestyn gwaharddiad ar ymwelwyr i ysbytai Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro
Ni fydd ymwelwyr yn cael mynd i ysbytai Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro am gyfnod pellach tra eu bod yn parhau i geisio mynd i’r afael ag achosion o Norofeirws.
Ddydd Gwener ddiwethaf fe gyhoeddodd y bwrdd iechyd fod achosion o'r haint mewn ysbytai wedi arwain at gau wardiau a rhoi pwysau aruthrol ar wasanaethau.
Mewn datganiad dydd Mercher, dywedodd y bydd yn rhaid ymestyn y gorchymyn i bobl beidio ag ymweld ag ysbytai gan fod y “sefyllfa’n parhau i fod yn heriol ar draws y sefydliad.”
“Nid yw hwn yn benderfyniad yr ydym wedi’i wneud yn ysgafn, ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd cymorth gan deulu a ffrindiau pan fydd cleifion yn yr ysbyty," meddai'r bwrdd.
“Fodd bynnag, mae angen amddiffyn ein cleifion, staff a’r gymuned ehangach.
“Ystyrir eithriadau, yn enwedig ar gyfer y cleifion hynny sy'n ddifrifol wael, sy'n derbyn gofal diwedd oes, partneriaid geni ac Ysbyty Plant Cymru.”
Ychwanegodd y bydd yn adolygu’r cyfyngiadau “tuag at ddiwedd yr wythnos” gan ddibynnu ar faint mae’r sefyllfa wedi gwella.
Dywedodd y bwrdd iechyd na fyddai hyn yn effeithio ar apwyntiadau allanol.
Maen nhw’n annog unrhyw ymwelwyr sydd wedi eu heithrio fel rhan o’r cyfyngiadau i olchi eu dwylo’n drylwyr gyda sebon a dŵr cyn ymweld â chleifion.