Newyddion S4C

Gwahardd bwydydd sothach o ardaloedd amlwg mewn archfarchnadoedd

26/03/2025
Archfarchnad PA

Mae'r Senedd wedi cefnogi cynllun i wahardd arddangos bwydydd a diodydd sydd ddim yn iach o ardaloedd amlwg mewn archfarchnadoedd, gyda'r bwriad o fynd i'r afael â gordewdra.

Fe wnaeth aelodau'r Senedd bleidleisio o blaid cyflwyno cyfyngiadau ar hyrwyddo cynhyrchion sy'n cynnwys lefelau uchel o fraster, siwgr a halen mewn archfarchnadoedd gyda 50 neu fwy o weithwyr.

Ni fydd y cynlluniau'n effeithio busnesau bach, ond mi fyddan nhw'n berthnasol i siopau sy’n rhan o gadwyn gyda dros 10 o siopau fel Tesco Express.

Bydd y cyfyngiadau'n dod i rym ym mis Mawrth 2026, gan wahardd siopau rhag hyrwyddo bwydydd nad ydyn nw'n iach wrth fynedfeydd ac ar ddiwedd eiliau.

Bydd y cynnig ail-lenwi diodydd melys am ddim a chynigion 'prynu un a chael un am ddim' ar fwydydd sothach hefyd yn dod i ben.

Dywedodd Jeremy Miles wrth y Senedd: "Gordewdra yw un o’r prif risgiau i’n hiechyd yng Nghymru.

"Dyma brif achos llawer o gyflyrau difrifol, gan gynnwys diabetes math dau, clefyd cardiofasgwlaidd a rhai mathau o ganser. Mae cysylltiad hefyd â phroblemau orthopedig, iechyd meddwl gwael ac iselder.

"Mae’r dystiolaeth yn dangos bod yr amgylchedd rydyn ni’n siopa ynddo yn dylanwadu’n fawr ar ein dewisiadau bwyd. 

"Mae’r strategaeth hyrwyddo a ddefnyddir gan y diwydiant bwyd yn dylanwadu ar yr hyn rydyn ni’n ei fwyta."

Ni fydd y bwydydd canlynol yn cael eu gwerthu yn y mannau gwerthu fwyaf amlwg:

- Diodydd ysgafn

- Siocled

- Fferins

- Cacennau

- Hufen iâ

- Pastries

- Pwdinau

- Bisgedi

- Grawnfwydydd

- Iogwrt

- Diodydd sy'n seiliedig ar laeth gyda siwgr ychwanegol

- Diodydd sy'n seiliedig ar sudd gyda siwgr ychwanegol

- Pitsa

- Creision

- Prydau parod

- Cynhyrchion cig wedi'u prosesu fel byrgyrs

- Sglodion a chynhyrchion tatws eraill

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.