
Carcharu dyn am dyfu gwerth £287,000 o ganabis mewn tŷ yn y Drenewydd
Mae dyn wedi ei garcharu am dros ddwy flynedd am dyfu 274 planhigyn canabis mewn tŷ yn y Drenewydd.
Cafodd Ismet Lika, 35 oed, ei garcharu ar ddydd Mercher 19 Chwefror fel rhan o ymgyrch Heddlu Dyfed Powys i fynd i’r afael â ffatrïoedd canabis sy’n cael eu rhedeg gan gangiau troseddu.
Fe aeth yr heddlu i mewn i dŷ ar Deras Clifton am eu bod wedi cael gwybodaeth oedd yn awgrymu bod canabis yn cael ei dyfu yno.
Y tu mewn i’r adeilad, fe wnaethon nhw ddarganfod planhigion canabis ar draws pedwar llawr a oedd yn werth tua £287,000.
Fe wnaeth yr heddlu hefyd ddarganfod bod pafin tu allan i'r tŷ wedi ei dyllu er mwyn cysylltu yn anghyfreithlon gyda chyflenwad trydan.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl James Page: “Gweithredwyd y warant fel rhan o Ymgyrch Scotney, sef gwaith parhaus Heddlu Dyfed Powys i fynd i’r afael â ffatrïoedd canabis ar raddfa ddiwydiannol.”
“Mae’r ffermydd canabis hyn yn cael eu gweithredu gan gangiau troseddu trefnedig sy’n ceisio sleifio i mewn i ardal ein heddlu.”
“Byddwn yn parhau ein gwaith i amharu ar eu gwaith, a thynnu unrhyw un sy’n rhan o’r gweithgarwch troseddol hwn allan o’n cymunedau.”
Cafodd Lika ddedfryd o 25 mis o garchar ar ôl cyfaddef cynhyrchu canabis.
