Newyddion S4C

Pwynt gwerthfawr i Gymru yn erbyn Gogledd Macedonia wedi gêm ddramatig

Cymru v Gogledd Macedonia

Mae Cymru wedi sicrhau gêm gyfartal 1-1 oddi cartref yn erbyn Gogledd Macedonia yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026, yn y modd mwyaf dramatig, wedi i'r ddau dîm sgorio ym munudau olaf y gêm. 

Wedi'r fuddugoliaeth ar ddechrau'r ymgyrch yng Nghaerdydd nos Sadwrn, fe wnaeth y prif hyfforddwr Craig Bellamy dri newid i'r tîm a gurodd Kazakhstan 3-1.   

Dechreuodd Chris Mepham mewn rôl amddiffynnol yng nghanol cae, gyda'r capten Ben Davies yn symud i'r chwith yn y cefn, a Connor Roberts yn dychwelyd i'r fainc. 

Wedi ei berfformiad rhagorol ar ôl iddo ddod oddi ar y fainc yng Nghaerdydd nos Sadwrn, dechreuodd Jordan James y gêm yn Skopje, a chamodd yr ymosodwr Nathan Broadhead i'r cae wrth i Liam Cullen a David Brooks ddechrau ar y fainc. 

Roedd munud o dawelwch ar ddechrau'r gêm wrth i'r cefnogwyr a'r chwaraewyr  gofio am y 59 o bobl ifanc a fu farw ar ôl tân mewn cyngerdd yn nhref Kocani, rhyw 60 milltir i'r dwyrain o'r brifddinas Skopje dros wythnos yn ôl. 

Roedd Gogledd Macedonia yn hyderus ar ddechau'r gêm wedi iddyn nhw ennill chwe gêm yn olynol heb ildio gôl, a churo Liechtenstein 0-3 yn y grŵp nos Sadwrn.   

A gyda Chymru heb golli mewn saith gêm o dan arweiniad Craig Bellamy, digon cyfartal oedd hi rhwng Cymru a Macedonia yn yr 20 munud gyntaf yn Skopje, gyda'r bêl yn symud o un pen y cae i'r llall. 

Bu oedi yn y chwarae wedi 25 munud ar ôl i ôl-geidwad Gogledd Macedonia Stole Dimitrievski gael triniaeth i'w droed.  

Daeth Cymru yn agos iawn at sgorio wedi 32 munud wrth i Jordan James basio'r bêl yn gelfydd i Dan James. Roedd Sorba Thomas yno i dderbyn croesiad James, ond methodd â tharo cefn y rhwyd.

Gorffennodd Gogledd Macedonia yr hanner cyntaf yn gryf gydag Eljif Elmas yn ennill cornel i'r tîm cartref a hynny'n codi ysbryd cefnogwyr Gogledd Macedonia. 

Roedd pedair munud ychwanegol ar ddiwedd yr hanner cyntaf wedi gornest gystadleuol rhwng y ddau dîm. 

Yn yr amser ychwanegol, cafodd Nikola Serafimov gerdyn melyn cyntaf y gêm am faglu'r Cymro Brennan Johnson. 

Rai munudau yn ddiweddarach, ar ddiwedd yr hanner cyntaf, cafodd prif hyfforddwr Gogledd Macedonia, Blagoja Milevski gerdyn melyn am brotestio yn erbyn y penderfyniad i beidio â chosbi Josh Sheehan.

Di-sgôr oedd hi ar yr egwyl. 

Doedd dim newidiadau i dîm Craig Bellamy ar ddechrau'r ail hanner gyda Chymru'n dechrau'n gryf a phwrpasol. 

Daeth hanner cyfle wedi 55 munud gyda chroesiad Dan James.

Roedd y cyfleoedd yn pentyrru i Gymru funudau yn ddiweddarach,  gyda Brennan Johnson yn rhedeg tuag at y gôl gan guro ei ddyn cyn pasio i Nathan Broadhead. Ond methodd Broadhead gyda'i gic yn hedfan dros y postyn. 

Daeth ton o gymeradwyaeth gan y cefnogwyr ar 59 munud yn deyrnged i'r 59 o bobl ifanc a gollodd eu bywydau yn y tân mewn clwb nos dros wythnos yn ôl. 

Wedi ychydig dros awr o chwarae, camodd Kieffer Moore i'r cae yn lle Dan James.

A daeth cyfle gorau Gogledd Macedonia rai munudau yn ddiweddarach wrth i Darko Churlinov bron â chyrraedd cefn y rhwyd. 

Yn ffodus i Gymru, daeth arbediad cadarn gan y gôl-geidwad Karl Darlow.

Daeth cyfle euraidd arall i Gymru yn ugain munud olaf y gêm. Croesodd Sorba Thomas ac wedi blerwch y tîm cartref, glaniodd y bêl o flaen Brennan Johnson, ond llwyddodd Visar Musliu i atal ei ymgais. 

Wedi 75 munud, cafodd Nathan Broadhead ei eilyddio, a chamodd David Brooks i'r cae.    

Derbyniodd Joe Rodon gerdyn melyn cyntaf Cymru wedi 79 munud o chwarae. 

A daeth cyfle da iawn i Ogledd Macedonia ar 81 munud gyda'r bêl yn crafu heibio'r gôl. 

Daeth rhagor o eilyddio i Gymru gyda Rabbi Matondo yn camu i'r maes yn lle Brennan Johnson, a Josh Sheehan yn ildio'i le i Joe Allen. 

Ond daeth tor calon i Gymru ym munudau olaf y gêm wedi camgymeriad gan Joe Allen wrth iddo geisio pasio'r bêl tuag at Joe Rodon. Cymerodd Bojan Miovski fantais a chyrraedd cefn y rhwyd yn hawdd. 

Roedd hi'n ymddangos ei bod hi ar ben i Gymru ond yn yr eiliadau olaf, llwyddodd David Brooks i gicio'r bêl i gefn y rhwyd, gan achub Cymru yn y modd mwyaf dramatig. 

Roedd y ddwy fil o aelodau'r Wal Goch ar ben eu digon. Byddai dygymod â cholli'r gêm hon wedi bod yn anodd. Gyda Chymru'n sgorio yn yr eiliadau olaf, roedd hi'n gêm gyfartal a oedd yn teimlo fel buddugoliaeth. 

Bellach mae Cymru o dan arweiniad Craig Bellamy wedi chwarae wyth gêm yn olynol heb golli. A'r pwynt yn Skopje nos Fawrth yn un hynod werthfawr.    

Gogledd Macedonia 1-1 Cymru.   
 

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.