Teyrngedau i ddau ddyn ifanc o Wrecsam fu farw mewn gwrthdrawiad
Mae teuluoedd dau ddyn ifanc a fu farw mewn gwrthdrawiad beic modur wedi rhoi teyrngedau iddyn nhw.
Bu farw Owen Aaran Jones, 19 oed ac Adam Watkiss-Thomas, 18 oed, o Wrecsam ar ddydd Gwener 21 Mawrth yn dilyn gwrthdrawiad beic modur Honda 125cc melyn ar Ffordd Wrecsam ym Mrychdyn Newydd.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd teulu Owen ei fod yn “llanc poblogaidd” oedd â “gwên a allai oleuo ystafell”.
“Roedd ei ffrindiau a’i deulu yn adnabod Owen fel y person mwyaf doniol a chariadus iddyn nhw ei gyfarfod erioed.
“Bydd colli Owen fel mab, brawd, tad a ffrind yn gadael twll yn ein calonnau i gyd.
“Roedd yn fachgen poblogaidd a gafodd effaith ar bawb y cyfarfu â nhw.
“Ni allai unrhyw eiriau ddisgrifio’r boen o golli Owen.”
'Gwagle enfawr'
Dywedodd teulu Adam Watkiss-Thomas fod eu colled wedi gadael “gwagle enfawr yn ein calonnau”.
"Daeth i'r byd ar 1 Mai 2006 yn y fath frys. Fe'n gadawodd ni hefyd ar frys, gan wneud yr hyn yr oedd yn ei garu fwyaf.
“Mae’n gadael ei efaill ar ei ôl, sef ei ffrind gorau yn y byd ac roedd y brawd gorau i’w frawd a’i chwaer iau.
“Roedden ni i gyd yn ei garu gymaint a bydd yn gadael gwagle enfawr yn ein calonnau.
“Roedd ganddo'r galon fwyaf a gwnaeth yn siŵr ei fod yn gofalu am ei frodyr a chwiorydd.
“Byddwn ni i gyd yn gweld ei eisiau yn fawr, roedd yn fachgen poblogaidd iawn ac roedd ganddo lawer o ffrindiau oedd yn ei garu."
Dywedodd y Rhingyll Katie Davies o’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: “Mae ein meddyliau’n parhau gyda theulu Owen ar yr amser anodd iawn hwn, sy’n cael eu cefnogi gan Swyddog Cyswllt Teuluol sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig.
“Rydym yn parhau i apelio am dystion i’r gwrthdrawiad a ddigwyddodd toc cyn 23:00 ar 21 Mawrth, neu unrhyw un a allai fod wedi bod yn yr ardal o gwmpas yr amser hwnnw i gysylltu â swyddogion.
“Rydym ni'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo gyda’r ymchwiliad i gysylltu â ni drwy’r wefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 25000236736.”