Newyddion S4C

Deiseb yn gwrthwynebu 30 o dai mewn tref yng Ngheredigion yn denu cefnogaeth

25/03/2025
Maes parcio Cei Newydd

Mae deiseb yn gwrthwynebu cynlluniau i godi 30 o dai fforddiadwy ar faes parcio mewn tref glan môr yng Ngheredigion wedi denu bron i 1,000 o lofnodion.

Mae cymdeithas dai Barcud yn ceisio cael caniatâd gan Gyngor Sir Ceredigion ar gyfer y cynllun tai fforddiadwy ar dir maes parcio yng nghanol Cei Newydd.

Roedd argymhelliad i gymeradwyo’r cais yn amodol yng nghyfarfod mis Mawrth o bwyllgor rheoli datblygu’r cyngor, ar ôl cael ei ohirio o gyfarfod mis Chwefror ar gyfer ymweliad safle.

Ar hyn o bryd mae'r safle'n gweithredu fel maes parcio talu ac arddangos, sy'n eiddo i Barcud ac yn cael ei reoli gan Barcud fel menter fasnachol.

Mae’r cais cynllunio yn cynnwys cadw 91 o’r mannau parcio ar y safle - ac fe allai'r mannau parcio gael eu cadw “am byth” meddai swyddogion pe bai’r cynllun yn cael ei gymeradwyo.

Mae Cyngor Tref Cei Newydd wedi gwrthwynebu’r cais, gan godi pryderon am golli mannau parcio a’i effaith ar y diwydiant twristiaeth, a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn y dref ar gyfer trigolion.

'Dogfennau arwyddocaol'

Yn y cyfarfod cynllunio ym mis Mawrth, dywedodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Matthew Vaux, wrth y pwyllgor fod Cymdeithas Masnachwyr Cei Newydd wedi “cyflwyno nifer o ddogfennau arwyddocaol” lle’r oedden nhw’n “codi pryderon gwirioneddol ynghylch afreoleidd-dra gweithdrefnol”.

I dref lle mai “twristiaeth yw anadl einioes economaidd,” roedd “methu ag ystyried bod gostyngiad mewn llefydd parcio yn anamddiffynadwy,” gan ychwanegu bod yr “effeithiau negyddol yn ddwys i bobl leol a masnachwyr”.

“Y peth olaf mae’r dref eisiau yw ennill enw da fel lle anghyfleus i barcio.”

Dywedodd hefyd fod “anghysondebau” yn y galw am rai mathau o dai, ynghyd â thrafnidiaeth gyhoeddus gyfyngedig.

Dywedodd swyddogion wrth yr aelodau nad oedden nhw’n ystyried bod “unrhyw bwyntiau newydd sylweddol” wedi’u codi gan ddadleuon “unfed awr ar ddeg” y gwrthwynebwyr, gan arwain y Cynghorydd Gareth Lloyd i gynnig gohirio’r cais unwaith eto i ystyried y wybodaeth newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans yn y cyfarfod: “Nid yw’n ddelfrydol, ond mae angen i ni gael yr holl wybodaeth o’n blaenau.”

Yng nghyfarfod mis Mawrth, cafodd y cais ei ohirio tan gyfarfod yn y dyfodol, gyda disgwyl iddo fod ym mis Ebrill.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.