Newyddion S4C

Pam wnaeth golau rhyfedd ymddangos yn yr awyr nos Lun?

25/03/2025
Golau rhyfedd SpaceX

O Ben Llŷn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, fe gafodd golau rhyfedd ei weld yn yr awyr mewn mannau ar hyd a lled Cymru nos Lun. 

Y gred yw bellach mai lansiad roced SpaceX yn yr Unol Daleithiau wnaeth achosi’r golau troellog i ymddangos. 

Roedd roced y Falcon 9 o gwmni gofod y biliwnydd Elon Musk wedi gadael y ddaear am tua 13.50 amser lleol yn nhalaith Florida (17.50 GMT), a hynny fel rhan o daith gyfrinachol ar ran llywodraeth America. 

Er mwyn cyrraedd y gofod, mae’n rhaid i’r Falcon 9 ryddhau'r hyn mae’n ei gludo – fel lloeren, er enghraifft – wrth iddo barhau ar ei daith. 

Mae’r roced yna’n gwneud ei ffordd yn ôl i’r ddaear, ond nid cyn iddo gael gwared ag unrhyw danwydd sydd ganddo dros ben. 

Mae’r tanwydd yn rhewi yn y fan a’r lle oherwydd yr uchder. Mae’n rhewi mewn siâp troellog yn sgil symudiadau’r roced. 

Wrth i olau gael ei adlewyrchu oddi ar danwydd rhewllyd, mae modd ei weld o’r ddaear. 

Fe gafodd y golau ei weld mewn ardaloedd yng Nghymru, Lloegr a gwledydd eraill Ewrop nos Lun. 

Mewn neges ar X, dywedodd SpaceX mai taith ar ran y Swyddfa Rhagchwilio Genedlaethol oedd hi. 

Dywedodd Canolfan Ofod Kennedy hefyd mai lansiad cyfrinachol ar ran y swyddfa honno oedd y rheswm am y daith. 

Llun: Y golau yn ymddangos yn yr awyr uwchben Edern, ym Mhen Llŷn. (Huw G Williams)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.