'Cefnogwyr pêl-droed Cymru wedi normaleiddio'r iaith Gymraeg'
'Cefnogwyr pêl-droed Cymru wedi normaleiddio'r iaith Gymraeg'
# Yma o hyd #
Yma o Hyd, hetiau bwced a'r iaith Gymraeg.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwneud defnydd o ddiwylliant Cymreig i drawsnewid hunaniaeth y tim cenedlaethol ar ac oddi ar y cae.
Yma ym Mae Caerdydd, mae aelodau blaenllaw ym myd pêl-droed wedi dod at ei gilydd i drafod yr union berthynas rhwng ieithoedd lleiafrifol a gem y bel gron.
Mae arbenigwyr yn y maes yn credu bod cefnogwyr pêl-droed Cymru wedi bod yn flaengar wrth weddnewid agweddau diwylliannol yn nhorf gemau rhyngwadol Cymru.
"Mae'r gymdeithas bel-droed wedi cofleidio'r Gymraeg ei gwneud hi'n amlwg a'i normaleiddio hi.
"Ond wrth gwrs, mae'r ffans eu hunain wedi gwneud hynny hefyd.
"Mae angen yr hwb yna.
"Y mwyaf o hoffter a normaleiddio'r Gymraeg sy'n digwydd gorau'n byd."
A'r arfer o chwmpasu tim pel-droed drwy ddiwylliant yn un sydd i'w weld ar hyd a lled cyfandir Ewrop ac ymhlith rhai o dimau mwya'r byd.
Gyda chynnydd aruthrol yn y niferoedd sy'n dilyn Cymru gartref ac i ffwrdd ers Ewro 2016 mae un aelod o'r Wal Goch a chefnogwr rygbi Cymru yn honni fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gosod esiampl i'r hyn ddylai Unbeb Rygbi Cymru wneud.
"Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi creu awyrgylch fel bod ni fel cefnogwyr yn gallu bod yn rhan o'r tim, y profiad, yr iaith a'r wlad.
"Ar ddiwedd y dydd os maen nhw'n rhoi popeth i ni wnawn ni roi popeth i nhw.
"They just get it."
A chael hi'n iawn ar gae Stadiwm Dinas Caerdydd fydd nod Craig Bellamy wrth i Gymru herio Kazakhstan nos fory yn eu hymgyrch i gyrraedd ail Gwpan y Byd yn olynol.
A chyfle arall, felly, i gefnogwyr Cymru ffeindio'u llais yn y brifddinas.