Powys: Ystyried agor yr ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf i blant o bob oed
Powys: Ystyried agor yr ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf i blant o bob oed
Mae disgwyl i gabinet Cyngor Sir Powys ystyried cynlluniau ddydd Mawrth ar gyfer yr ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf i blant o bob oed.
Bwriad Cyngor Sir Powys yw agor ysgol cyfrwng Cymraeg newydd i blant rhwng pedair a 18 oed ar gampws Ysgol Calon Cymru yn Llanfair-ym-Muallt.
Fel rhan o'r cynnig, byddai disgyblion cyfrwng Cymraeg Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfair-ym-Muallt yn trosglwyddo i'r ysgol newydd ym mis Medi 2027.
O ganlyniad ni fyddai gan Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfair-ym-Muallt ffrwd Gymraeg mwyach.
Byddai darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer Blynyddoedd 7, 8 a 9 hefyd ar gael yn yr ysgol newydd, gyda disgyblion yn trosglwyddo o Ysgol Calon Cymru.
Mae gan Ysgol Calon Cymru ddau gampws, un yn Llanfair-ym-Muallt ac un yn Llandrindod, a chanolfan chweched dosbarth yn Llandrindod.
I ddechrau byddai'r ysgol newydd yn rhannu campws Ysgol Calon Cymru yn Llanfair-ym-Muallt lle byddai rhan o'r adeilad yn cael ei ailfodelu.
Byddai disgyblion yn parhau i allu ymuno ag Ysgol Calon Cymru ar gyfer darpariaeth cyfrwng Saesneg ar gampysau Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod.
Byddai hyn yn drefniant dros dro hyd nes y bydd gwaith i wella ac ymestyn campws Ysgol Calon Cymru yn Llandrindod wedi ei gwblhau, meddai'r cyngor.
'Gwella addysg Gymraeg'
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar faterion Bowys yn Dysgu, y byddai'r ysgol newydd yn "darparu gwell profiad cyfrwng Cymraeg".
"Mae wedi bod yn amlwg ers sawl blwyddyn bod model dau safle Ysgol Calon Cymru yn achosi heriau ac nad yw'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol ei hun a'r dalgylch ehangach yn bodloni ein dyheadau ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg," meddai.
"Byddai'r cynigion yn gweld sefydlu'r ysgol bob oed cyfrwng Cymraeg gyntaf yng nghanol Powys a fyddai'n darparu gwell profiad cyfrwng Cymraeg i'n dysgwyr.
"Byddai'n caniatáu i ni hefyd fedru darparu cwricwlwm ehangach i ddysgwyr cyfrwng Saesneg i gyd ar un campws, gan ddileu'r angen i ddyblygu darpariaeth cyfrwng Saesneg ar draws dau safle.
"Fel rhan o'n cynigion, byddem yn buddsoddi yn y ddau gampws i sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei addysgu mewn cyfleusterau'r 21ain ganrif a fydd yn eu galluogi i ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn."
Bydd cabinet y cyngor yn cyfarfod ddydd Mawrth i ystyried y cynnig.