160,000 o weithwyr i dderbyn codiad cyflog yng Nghymru
Bydd hyd at 160,000 o weithwyr yng Nghymru yn cael cyflog uwch ddydd Mawrth.
Bydd y cyflog byw bellach yn codi 6.7% i’r rhai sydd dros 21 oed, tra bydd yr isafswm cyflog statudol yn codi 16.2% i bobl rhwng 18-20 oed.
Mae hyn yn golygu y bydd gweithwyr dros 21 oed yn gweld codiad cyflog o £11.44 i £12.21 yr awr.
Mae hynny’n gyfystyr â chodiad cyflog o £1,400 y flwyddyn.
Bydd gweithwyr rhwng 18-20 oed yn gweld eu cyflog yn codi o £8.60 i £10 yr awr.
Mae’r isafswm cyflog hefyd wedi codi i bobl dan 18 oed – a hynny 18%. Fe fydd pobl dan 18 oed bellach yn cael eu talu £7.55 yr awr.
Prentisiaid fydd yn derbyn y codiad cyflog mwyaf o 18%, gan gynyddu o £6.40 i £7.55 yr awr.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens: “Heddiw, bydd miloedd o’r gweithwyr sydd ar y cyflogau isaf yng Nghymru yn derbyn codiad cyflog gwerth £1,400 y flwyddyn i helpu gyda'u biliau cartref gan wella safonau byw.”
Dywedodd y bydd teuluoedd ar hyd a lled Cymru bellach yn gweld y cynnydd “wrth i Lywodraeth y DU roi mwy o arian ym mhocedi pobl sy’n gweithio.”
Biliau yn codi
Ond daw'r codiad cyflog mewn cyfnod pan mae cynnydd yn nhreth y cyngor, cyfraniad Yswiriant Gwladol a chostau tanwydd ar gyfer miliynau o bobl.
Bydd biliau blynyddol ar gyfer cartrefi sydd yn defnyddio nwy a thrydan ar gyfartaledd yn codi i £1,849 y flwyddyn, cynnydd o £111.
Mae biliau dŵr hefyd yn codi £10 neu fwy'r mis ar gyfartaledd ond mae hyn yn amrywio yn dibynnu ar y cwmni dŵr.
Yn ôl y gwrthbleidiau fe fydd teuluoedd hyd at £3,536 yn waeth yn ystod y cyfnod y mae'r llywodraeth Lafur mewn grym.
Dywedodd y llefarydd sydd â chyfrifoldeb am faterion economaidd yn y blaid Geidwadol y byddai'r cynnydd yng nghyflogau pobl yn golygu dim o achos “biliau uchel Llafur a threth gwaith Rachel Reeves.
"Fe wnaeth Llafur gymryd i ffwrdd y taliadau tanwydd gaeaf, godi trethi ar ffermwyr a chwipio busnesau gyda threthi uwch."