
Canu mewn côr gyda phobl eraill â Parkinson's yn ddihangfa i ddyn o'r gogledd
Mae dyn o Sir Conwy sy’n byw â'r cyflwr Parkinson’s yn dweud ei fod yn gallu "anghofio popeth" trwy fod yn aelod o gôr gyda phobl eraill sy’n byw gyda'r un cyflwr.
Fe gafodd Gwynfor Davies o Ddyffryn Elwy ddiagnosis o Parkinson’s ar 2 Ebrill 2012. Roedd o'n 67 oed ar y pryd.
Bellach yn 79 oed, mae’r cyn gontractwr amaethyddol yn aelod o gôr ParkinSings ac yn mynd i ymarferion ym Modelwyddan yn rheolaidd.
Nod ParkinSings, sydd yn brosiect rhwng elusen Parkinson’s UK Cymru a menter gymdeithasol Choirs For Good, yw rhoi cyfle i bobl sy’n byw a Parkinson’s a’u gofalwyr i gymdeithasu.
Mae Gwynfor yn mynd i’r ymarferion gyda’i wraig Carol. Mae'n galluogi iddyn nhw rannu profiadau newydd gyda’i gilydd.
“D’on i ddim yn mynd gyda Gwynfor yn wreiddiol achos oeddwn i am iddo fo fod yn annibynnol. Ond mae’n rhywbeth da ni’n gallu rhannu rŵan,” meddai Carol Davies wrth siarad â Newyddion S4C.
“Gyda Parkinson’s, mae’n hawdd i chi orfod mynd ar eich trywydd eich hunain, ond mae’r ffaith bod o eisiau gwneud yr holl bethau gwahanol yma – mae’n parhau i ddysgu fi,” ychwanegodd.

'Yn yr un cwch'
Mae Parkinson's yn gyflwr ar yr ymennydd sy'n gwaethygu dros amser ac nid oes iachâd ar hyn o bryd.
Mae dros 40 o symptomau sydd yn gysylltiedig â’r cyflwr, gan gynnwys cryndod, poen difrifol a gorbryder.
Yng Nghymru mae'n effeithio ar 8,300 o bobl a 153,000 yn y Deyrnas Unedig.
Fel "un o gefn gwlad” sydd yn angerddol am ei ddiwylliant, mae bod yn aelod o gôr ParkinSings yn hollbwysig i Gwynfor.
“Chi’n cael anghofio pob peth rhyw sut pan da chi’n gweld rhywun.
“Mae pawb sydd yn y grŵp yr un fath â chi. Da chi’n teimlo ar ben y byd.
“Da ni gyd yn fan ‘na ar yn yr un un cwch,” meddai.
Ariannu'r sector 'yn briodol'
Ddydd Mawrth fe fydd Gwynfor Davies a’i wraig yn dod at ei gilydd gyda grwpiau eraill o ogledd, canolbarth a de Cymru i berfformio yn y Senedd yng Nghaerdydd.
Mae mis Ebrill yn Fis Ymwybyddiaeth Parkinson’s ac maen nhw’n gobeithio dangos pa mor bwysig yw cynnal gweithgareddau yn eu cymuned.
Fe ddaw wrth i Parkinson’s UK alw ar Lywodraeth Cymru i ariannu’r sectorau diwylliannol a chwaraeon “yn briodol” er mwyn cefnogi pobl mewn sefyllfaoedd tebyg.
Yn ôl yr elusen, mae angen i’r llywodraeth “wneud mwy na rhoi plaster". Maent yn dweud nad yw darparu swm atodol blynyddol o £4.4m ar gyfer y celfyddydau yn ddigon o ymrwymiad hirdymor.
Dywedodd Dawn McGuinness, Rheolwr Datblygu Cymunedol gyda Parkinson’s UK Cymru: “Er ein bod yn croesawu’r chwistrelliad cyllid diweddar, rydym yn pryderu bod hyn yn llenwi bylchau a grëwyd eisoes gan doriadau blaenorol.
“Rydym yn cydnabod yr hinsawdd heriol a’r angen i ariannu’r GIG ond mae’n hanfodol hefyd fod Llywodraeth Cymru yn deall buddion iechyd a lles y celfyddydau a chwaraeon ac yn cydnabod eu pwysigrwydd ar gyfer y rhai sydd â chyflyrau cronig fel Parkinson’s."
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi darparu cyllid cynyddol i amrywiaeth o sefydliadau diwylliannol, treftadaeth a chwaraeon fydd yn ymgymryd â gweithgareddau sydd â’u ffocws ar y gymuned yng Nghymru.”