Virginia Giuffre yn honni bod ganddi 'bedwar diwrnod ar ôl i fyw' wedi damwain
Mae Virginia Giuffre, sydd yn honni iddi gael ei cham-drin yn rhywiol gan y Tywysog Andrew, yn dweud ei bod yn yr ysbyty wedi “damwain ddifrifol”.
Fe ddywedodd Ms Giuffre ar ei chyfrif Instagram mai “pedwar diwrnod sydd gennai ar ôl i fwy” ar ôl i’w char gael ei daro gan fws ysgol.
Yn y neges mae’n dweud bod ei “harennau wedi darfod” a’i bod yn “barod i fynd ond dim tan fy mod i wedi gweld fy mabis unwaith eto”. Mae llun ohoni mewn gwely ysbyty gyda chleisiau amlwg drosti.
Dywedodd ei llefarydd Dini von Mueffling bod Virginia wedi bod “mewn damwain ddifrifol ac yn derbyn gofal meddygol yn yr ysbyty. Mae’n gwerthfawrogi yn fawr y gefnogaeth a’r dymuniadau da y mae pobl wedi anfon ati.”
Ond dyw’r ddwy fenyw ddim wedi rhoi unrhyw fanylion ynglŷn â lle na phryd y digwyddodd y gwrthdrawiad.
Mae Ms Giuffre yn dweud ei bod bellach yn byw yn Awstralia ac fe wnaeth hi gyhoeddi llun o ddinas Perth ddechrau Mawrth.
Yn ôl Heddlu Gorllewin Awstralia roedd yna un adroddiad o “ddamwain fach” rhwng bws ysgol a char yn Neergabby, sydd tua 12 milltir i’r gogledd o Perth ar Fawrth 24.
“Fe wnaeth gyrrwr y bws ein gwneud yn ymwybodol o’r gwrthdrawiad,” meddai llefarydd yr heddlu. “Doedd dim adroddiadau o anafiadau yn sgil y ddamwain”.
Mae llefarydd ar gyfer Gwasanaeth Iechyd Dwyrain Metropolitan, sydd yn gyfrifol am Ysbyty Brenhinol Perth, wedi dweud wrth Gorfforaeth Darlledu Awstralia nad yw Ms Giuffre yn unrhyw un o’i hysbytai.
Mae Ms Giuffre yn un o gyhuddwyr mwyaf blaenllaw Jeffrey Epstein. Mae wedi honni iddi gael ei masnachu ganddo ef ac Ghislaine Maxwell i Ddug Efrog pan oedd hi'n 17 oed.
Mae'r Tywysog Andrew wedi gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn ond fe ddaeth y ddau i setliad tu allan i lys yn 2022.