Digwyddiad o bwys yn Birmingham wedi anghydfod am gasglu sbwriel
Mae Cyngor Dinas Birmingham wedi cyhoeddi digwyddiad o bwys yn sgil y streicio am finiau.
Y gred yw bod 17,000 tunnell o wastraff heb gael ei gasglu o gwmpas y ddinas.
Mae aelodau o’r undeb Unite wedi bod yn cynnal y streic wedi anghydfod am gyflogau.
Daw’r cyhoeddiad meddai’r cyngor wedi pryderon am iechyd y cyhoedd.
Mae trigolion y ddinas wedi gweld sbwriel yn pentyrru ar y strydoedd a rhai yn cwyno am lygod.
Yn ôl y cyngor mae’n amhosib i’w gweithwyr nol eu cerbydau i gasglu sbwriel am fod yna rai yn protestio tu allan i’w depos.
Y bwriad nawr yw gwneud yn siŵr bod lorïau bin yn gallu dod i mewn ac allan o’r depos gwastraff yn ddiogel.
Bydd mwy o gerbydau ar gael a chriwiau hefyd er mwyn glanhau’r strydoedd yn sgil y cyhoeddiad medd yr awdurdod.
Maent hefyd yn dweud bydd modd i’r cyngor weld os oes cefnogaeth ar gael gan awdurdodau cyfagos a gan y llywodraeth.
Dywedodd arweinydd Cyngor Dinas Birmingham ei fod “yn benderfynol o gymryd bob cam posib er mwyn delio gyda’r golygfeydd difrifol rydyn ni yn gweld mewn rhannau o’n dinas.”
Ychwanegodd ei fod yn “edifar” bod yn rhaid cyhoeddi digwyddiad o bwys ond bod ymddygiad rhai ar y llinell biced yn golygu bod yna “effaith sylweddol i drigolion” .
Mae Ysgrifennydd Cyffredinol Unite Sharon Graham wedi addo “amddiffyn gweithlu sbwriel Birmingham i’r carn” ac mae’n annog y cyngor i “ail feddwl y strategaeth drychinebus hon”.
Mae'r Gweinidog Cymunedau, Jim McMahon, wedi dweud bod y llywodraeth yn barod i roi adnoddau ychwanegol i Birmingham os oes angen.