Newyddion S4C

‘Cyfnod trasig’: Epidemig AIDS yr wythdegau yn destun sioe theatr

ITV Cymru 25/03/2025
Swansea Boy

Er iddo ei hysgrifennu yn y 90au, mae'r dramodydd Sean Mathias yn dweud mai nawr oedd yr amser cywir i'w ddrama am yr epidemig AIDS yn yr wythdegau gael ei pherfformio yn gyhoeddus. 

Mae Swansea Boy yn sioe hunangofiannol sydd i'w gweld yn Abertawe ar hyn o bryd. 

"Mae'n stori am fachgen sy'n gadael Cymru, ac yn mynd i'r ddinas fawr... ac eisiau dod yn artist," meddai Sean Mathias a gafodd ei eni a'i fagu yn y ddinas. 

Image
 Sean Mathias

"Mae gan bopeth ei amser, a dyma oedd amser ‘Swansea Boy'. Mae'n teimlo'n iawn. Rwy'n credu efallai 35 mlynedd yn ôl, roedd yn rhy amrwd," meddai.

"Rwy'n credu bod unrhyw un sydd wedi nyrsio unrhyw un sy'n sâl, neu wedi colli rhywun, yn cysylltu ag ef ar y lefel honno."

‘Cyfnod trasig’

Mae'r ddrama yn seiliedig ar gyfnod yr 1980au, ac mae'n dilyn dyn hoyw ifanc o Abertawe, ar adeg argyfwng iechyd byd-eang.

"Mae darganfod bod chi'n hoyw pan mae yna argyfwng AIDS yn hollol llethol," meddai Sean.

"Mae'n stori am beth ddigwyddodd i mi a llawer o ddynion eraill fy oedran. Roedd yn gyfnod trasig ac ofnadwy iawn, fe gollon ni lawer o ffrindiau, a llawer o anwyliaid."

Mae Swansea Boy yn cael ei pherfformio yn Theatr y Volcano hyd at 29 Mawrth 2025.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.