Newyddion S4C

'Poenus': Nodi'r bylchau ym mharatoadau pandemig Cymru

25/03/2025
covid

Mae Pwyllgor Covid y Senedd wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy'n nodi'r bylchau ym mharatoadau Cymru ar gyfer pandemig.

Roedd yn rhaid i'r pwyllgor nodi bylchau yn Ymchwiliad Covid-19 y DU yr oedd angen eu harchwilio’n fanylach yng Nghymru.

Fe wnaeth y pwyllgor nodi naw o fylchau yn ei adroddiad newydd a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth, gan gynnwys:

- Adolygu’r model cydnerthedd a pharodrwydd mwyaf effeithiol i Gymru

- Rhannu data yn ystod argyfyngau

- Eglurder negeseuon cyhoeddus

- Adnoddau ar gael i weithredu argymhellion

Mae disgwyl i'r bylchau gael eu cyflwyno mewn cynnig i’r Senedd ar gyfer dadl yr wythnos nesaf. 

Os bydd y Senedd yn derbyn y cynnig, bydd y pwyllgor wedyn yn cael cynnal archwiliad pellach i'r bylchau hyn.

'Poenus a thrawmatig'

Dywedodd Joyce Watson AS a Tom Giffard AS, cyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19, eu bod wedi tynnu sylw at "bob maes rydym yn credu bod angen ei archwilio ymhellach".

"Heddiw, rydym yn lansio adroddiad cyntaf Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19. Mae’n ganlyniad misoedd o waith cynhwysfawr i asesu a nodi bylchau posibl i’w harchwilio ymhellach o ganfyddiadau adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU," medden nhw.

"Roedd y pandemig yn brofiad poenus a thrawmatig i lawer yng Nghymru. Rydym yn hynod ddiolchgar am y mewnwelediadau a’r profiadau a rannwyd gan bawb a wnaeth ein cynorthwyo gyda’n gwaith, gan gynnwys ein hymgynghoriad cyhoeddus a’n digwyddiad rhanddeiliaid.

"Rydym wedi nodi ein casgliadau ac wedi tynnu sylw at bob maes rydym yn credu bod angen ei archwilio ymhellach. Bydd y bylchau hyn yn cael eu cyflwyno mewn cynnig i’r Senedd gyfan i’w hystyried yr wythnos nesaf."

Cafodd Pwyllgor Covid y Senedd ei sefydlu ym mis Mai 2023, gyda'r bwriad o edrych ar adroddiadau ym mhob cam o Ymchwiliad Covid-19 y DU. 

Roedd y pwyllgor hefyd yn bwriadu nodi'r bylchau ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru yn ystod y pandemig.

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.