Carthion dynol yn cael eu gadael 'yn gyson' ar hyd ochr ffordd ym Môn
24/03/2025
Mae carthion dynol yn cael eu gadael 'yn gyson' ar hyd ffordd ar Ynys Môn, ac mae'r cyngor wedi apelio am wybodaeth.
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd Cyngor Môn bod gwastraff dynol yn cael ei adael ar hyd un filltir o ffordd y B4421, rhwng Llangaffo a Niwbwrch.
Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr hyn sydd yn digwydd yn cael eu hannog i gysylltu gyda'r cyngor.
Mae modd gwneud hyn ar wefan adran Rheoli Gwastraff y Cyngor neu dros e-bost.
Llun: Ffordd y B4421 rhwng Llangaffo a Niwbwrch (Google Maps)