Newyddion S4C

Dyn wedi marw ar fferm ym Môn ar ôl cael ei wasgu gan ran o dractor

Cyngor Gwynedd

Mae cwest i farwolaeth dyn ar fferm ger Caergybi ar Ynys Môn yn gynharach yn y mis wedi clywed ei fod wedi marw ar ôl cael ei wasgu rhwng fforch codi gwair oedd ar gefn tractor.

Bu farw Endaf Telford Jones o Refail Ceirchiog, Engedi, yn 49 oed mewn digwyddiad ar fferm yn Rhyd-wyn ar 12 Mawrth.

Wrth agor y cwest yng Nghaernarfon ddydd Mawrth, dywedodd Sarah Riley, Crwner Cynorthwyol Ei Fawrhydi dros Ogledd Orllewin Cymru fod Mr Jones yn beiriannydd wrth ei waith a'i fod yn gweithio ar ben ei hun ar fferm Hafodty ar ddiwrnod ei farwolaeth.

Yn ystod y gwrandawiad byr yn Siambr Dafydd Orwig yn swyddfeydd y cyngor, dywedodd y Crwner bod Mr Jones wedi ei adnabod yn ffurfiol gan David Jones.

"Nid oes rhagor o fanylion ar gael ond mae'n ymddangos ei fod wedi ei ddal yn sownd rhwng croesddarn a rhan gefn fforch codi gwair y tractor," meddai.

"Roedd yn gweithio ar ben ei hun y diwrnod hwnnw felly mae'r wybodaeth sydd ar gael yn gyfyngedig.

"Cafodd archwiliad post mortem ei orchymyn gan Uwch Grwner Gogledd Orllewin Cymru, ac fe gafodd ei gynnal gan Dr Brian Rogers yn Ysbyty Glan Clwyd.

"Canfyddiad cychwynnol ei farwolaeth oedd methu anadlu o ganlyniad i wasgu.

"Fe fydd cwest llawn i ddilyn."

Mae'r heddlu'n gweithio gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i sefydlu amgylchiadau marwolaeth Mr Jones.

Mewn datganiad ddiwrnod ar ôl ei farwolaeth, dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi eu galw am 12:03 yn dilyn adroddiad am "ddigwyddiad" ar fferm.

"Yn anffodus bu farw dyn a gafodd anafiadau yn y digwyddiad".

Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn i'r awdurdodau gwblhau eu hymchwiliadau.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.