
'Llond llaw': Cymru yn paratoi i herio Gogledd Macedonia
'Llond llaw': Cymru yn paratoi i herio Gogledd Macedonia
Fe fydd dwylo Cymru yn llawn nos Fawrth wrth iddyn nhw herio Gogledd Macedonia yn ail gêm eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2026.
Dyna farn cyn chwaraewr Cymru, Owain Tudur Jones, wrth i dîm Craig Bellamy deithio i’r brifddinas Skopje gyda’r nod o sicrhau ail fuddugoliaeth mewn dwy gêm yn yr ymgyrch ragbrofol hyd yma.
Dan James, Ben Davies a Rabbi Matondo oedd y sgorwyr i Gymru wrth iddyn nhw sicrhau buddugoliaeth 3-1 yn erbyn Kazakhstan nos Sadwrn yng Nghaerdydd.
Ers iddo gymryd yr awenau fel rheolwr fis Medi'r llynedd, nid yw Cymru wedi colli o dan Craig Bellamy, ar ôl saith gêm dan ei arweiniad.

Ond mae Gogledd Macedonia hefyd ar rediad cryf o chwe buddugoliaeth o’r bron, ar ôl curo Liechtenstein 3-0 oddi cartref nos Sadwrn yn eu gêm ragbrofol agoriadol.
Wrth siarad yng Ngogledd Macedonia ddydd Llun, dywedodd Iwan Roberts, cyn-ymosodwr Cymru, ei fod yn rhagweld “gêm anodd”.
“Pan mae ‘na reolwr newydd eitha ifanc ‘di dod fewn efo syniadau newydd, syniadau ymosodol gwell i’r tîm, mae ‘na gyffro,” meddai wrth raglen Newyddion S4C.
“Ond mi fydd ‘na nerfau nos fory mae’n sicr achos dim ond dechrau'r ymgyrch ydi ac mae hon yn gêm fawr ac yn gêm anodd.”
Dywedodd Owain Tudur Jones o dîm Sgorio ar S4C: “Mae’n rhaid disgwyl bydda' nhw’n llond llaw.
“Mae hon yn wlad sydd wedi cyrraedd twrnament eu hunain dros y blynyddoedd diwethaf, mi fydda nhw’n ffansio gêm yn erbyn Cymru.
“Mi fyddan nhw’n meddwl eu bod nhw’n mynd benben efo Cymru am yr ail safle, er bo ni’n anelu am y cynta'.’”
Newid tactegau?
Fe benderfynodd Bellamy ddechrau gyda Liam Cullen a Josh Sheehan yng nghanol cae yn erbyn Kazakhstan, tu ôl i Dan James, Dave Brooks, Sorba Thomas a’r blaenwr, Brennan Johnson.
Fe wnaeth Jordan James argraff yng nghanol cae ar ôl dod ymlaen fel eilydd yn yr ail hanner, tra bod Rabbi Matondo wedi sgorio’i gôl ryngwladol cyntaf ar ôl dod oddi ar y fainc.
Inline Tweet: https://twitter.com/sgorio/status/1904152716080750633
Ac yn ôl cyn ymosodwr Cymru, Gwennan Harries, fe allai Bellamy benderfynu newid pethau unwaith eto ar gyfer y gêm nos Fawrth yn erbyn tîm sydd yn safle 67 ar restr ddetholion y byd FIFA.
“Fydd y gêm nos Fawrth ddim yn un hawdd, mae’n le anodd i fynd,” meddai.
“Ma ‘da nhw dîm da hefyd, sydd wedi datblygu lot dros y blynyddoedd diwethaf.
“O’r rhan tactegau, dwi’n credu bydd e’n chwarae gyda system wahanol, fydd chwaraewyr gwahanol, ni ddim yn mynd i drio guessio pwy ond fydd e [Bellamy] wedi cynllunio misoedd o flaen llaw ar gyfer pwy mae fe mo'yn a’r gwendidau mae fe mo'yn trio gweithio ar i Gogledd Macedonia, a beth yw ein cryfderau ni.”
Fe fydd Gogledd Macedonia v Cymru yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C ac S4C Clic am 19.15 nos Fawrth.
(Lluniau: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)