Newyddion S4C

Cyhuddo tri o dwyll gwerth miliynau o bunnoedd mewn coleg annibynnol yng Nghaerdydd

24/03/2025
Coleg

Mae tri o bobl wedi’u cyhuddo mewn cysylltiad ag ymchwiliad twyll a lladrad gwerth miliynau o bunnoedd yn gystylltiedig â choleg yng Nghaerdydd.

Roedd y twyll honedig yn gysylltiedig â'r coleg annibynnol Cardiff Sixth Form College ar Ffordd Casnewydd yn y brifddinas rhwng 2012 a 2016.

Mae Yasmin Anjum Sarwar, 43, o Gyncoed, Caerdydd a Nadeem Sarwar, 48, o Bentwyn, Caerdydd wedi’u cyhuddo o droseddau lladrad a thwyll gwerth tua £5 miliwn.

Mae Ragu Sivapalan, 39, o Benylan, Caerdydd wedi’i gyhuddo o gyfrifo ffug rhwng 2013 a 2016.

Bydd y tri yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar ddydd Mawrth 8 Ebrill.

Mae gan Cardiff Sixth Form College berchnogion newydd bellach, ac mae'r safle yn cael ei redeg fel menter elusennol. 

Does dim cysylltiad o gwbl rhwng y fenter honno â'r achos hwn. 

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.