Newyddion S4C

Morrisons i dorri cannoedd o swyddi drwy gau siopau a chaffis

24/03/2025
Morrisons

Mae cwmni archfarchnadoedd Morrisons wedi cyhoeddi y bydd yn cau dros 50 caffi ac 17 siop fel rhan o gynlluniau i drawsnewid y busnes. 

Bydd y cynlluniau yn effeithio ar dri lleoliad yng Nghymru. 

Bydd tri chaffi yn cau yng Nghymru – yn Morrisons Aberhonddu, Caernarfon a Chei Connah. 

Mae disgwyl i 52 caffi, 17 o siopau, 13 o siopau blodau, 35 cownter cig a 35 cownter pysgod gael eu cau yn y Deyrnas Unedig. 

Fe fydd 18 lleoliad ‘Market Kitchen’, ble mae modd prynu prydau o fwyd sydd wedi’i paratoi o flaen llaw, yn cau hefyd. 

Mae Morrisons wedi dweud y gallai hyd at 365 o weithwyr golli eu swyddi fel rhan o’r toriadau. 

Dywedodd prif weithredwr y cwmni, Rami Baitieh bod toriadau o’r fath yn “angenrheidiol” er mwyn trawsnewid ac adnewyddu Morrisons. 

Fe fydd y newidiadau yn eu galluogi i fuddsoddi yn yr hyn y mae eu cwsmeriaid yn eu “gwerthfawrogi fwyaf,” meddai. 

Llun: Ian West/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.