Newyddion S4C

Ymchwiliad wedi i drenau yrru'n 'sylweddol gynt' na'r terfyn cyflymder yn y de

24/03/2025
Bishton

Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) wedi cynnal ymchwiliad ar ôl i sawl trên yrru’n “sylweddol” gyflymach na’r terfyn cyflymder yn ne Cymru ym mis Ionawr.

Fe wnaeth Network Rail ganfod fod o leiaf wyth trên wedi torri’r cyfyngiadau cyflymder 50 milltir yr awr oedd mewn grym mewn dau leoliad ar brif lwybr cledrau'r de rhwng 11.33 a 14.08 ar 27 Ionawr.

Cafodd y cyfyngiadau eu gosod oherwydd rhagolygon am wyntoedd cryfion rhwng Castell-nedd ac Abertawe, yn ogystal â pherygl y byddai’r amodau yn achos i “goed risg uchel” ddisgyn rhwng Trefesgob a Chasnewydd.

Er bod rhai o’r trenau wedi eu gyrru ar gyflymder “yn sylweddol uwch” na’r terfyn 50mya, nid oedd unrhyw sgil effeithiau meddai'r ymchwiliad.

Yn dilyn yr ymchwiliad, mae Network Rail wedi penderfynu ail-gyhoeddi canllawiau diogelwch o fewn yr wythnosau nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.