Newyddion S4C

Dros 140 o bobl wedi marw ar ôl daeargryn yn Myanmar

Dioddefwyr Myanmar

Mae 144 o bobl wedi marw a thros 700 wedi eu hanafu ar ôl i ddaeargryn nerthol daro Myanmar yn y dwyrain pell.

Fe wnaeth rheolwr milwrol y wlad, Min Aung Hlaing gadarnhau'r ffigyrau brynhawn ddydd Gwener.

Dywedodd ei fod yn disgwyl i'r nifer sydd wedi marw gynyddu.

Fe wnaeth y daeargryn, oedd yn mesur 7.7 ar y raddfa Richter, daro Myanmar fore Gwener.

Mewn neges ar eu gwefan, dywedodd Arolwg Daearegol yr Unol Daleithiau y gallai miloedd o bobl fod yn farw ym Myanmar o ganlyniad i'r daeargryn. 

Erbyn prynhawn dydd Gwener roedd y sefydliad wedi diweddaru eu hadroddiad gan ddweud y gallai "degau o filoedd" o bobl fod yn farw.

Mae cryniadau'r daeargryn wedi effeithio ar ddinas Bangkok yng Ngwlad Thai hefyd - dinas sydd yn gartref i 17 miliwn o bobl gyda llawer yn byw mewn tyrau uchel yno.

Mae stad o argyfwng wedi ei gyhoeddi yn Bangkok a'r gred yw bod 43 o bobl ar goll ar ôl i dwr ddymchwel yng nghanol y ddinas.

Yn Myanmar mae stad o argyfwng yn ardaloedd Sagaing, Mandalay, Magway, Bago, Talaith Dwyrain Shan a Naypyidaw yn ôl adroddiadau lleol.

Roedd canolbwynt y daeargryn ger dinas Monywa ym Myanmar ond gan fod rhyfel cartref yn y wlad honno ar hyn o bryd mae'r anodd mesur union effaith y daeargryn ar yr ardal.

Mae cyfryngau'r wlad yn cael eu rheoli'n llwyr gan yr awdurdodau yno. 

Mae lluniau ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos pobl yn ffoi o adeiladau allan i strydoedd Bangkok pan darodd y cryniadau yn gynharach.

Mae llywodraeth Gwlad Thai'n cynnal cyfarfod brys ar hyn o bryd i drafod y sefyllfa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.