Gwent: Carcharu tri dyn am gyflenwi cyffuriau
Mae tri dyn a oedd yn rhan o grŵp troseddu wedi eu carcharu am gyflenwi cocên yn ardaloedd Casnewydd, Cwmbrân a Phont-y-Pŵl.
Roedd Callum Nocivelli, Gareth Hall a Declan Carr yn ymwneud â dwy fenter oedd yn gyfrifol am anfon cannoedd o negeseuon testun yn hysbysebu gwerthu a chyflenwi cocên.
Cafodd y tri eu dedfrydu i gyfanswm o 14 mlynedd ac wyth mis o garchar yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Gwener.
Cafodd, Nocivelli, 25, ddedfryd o bedair blynedd ac wyth mis yn y carchar.
Cafodd, Hall, 26, ddedfryd o chwe blynedd, tra bod Carr, 26, wedi derbyn dedfryd o bedair blynedd.
Daeth swyddogion o Heddlu Gwent o hyd i dystiolaeth bod y tri yn rhan o fenter cyflenwi cyffuriau ar ôl meddiannu ffôn symudol fel rhan o ymchwiliad ar wahân, nad oedd yn gysylltiedig, ac arweiniodd hyn at ddarganfod ail fenter cyffuriau.
Dywedodd PC Matthew Tucker: “Roedd y dystiolaeth a gasglwyd gennym yn dangos dau rif ffôn symudol oedd yn gysylltiedig â’r grŵp troseddau trefnedig hwn yn dangos nifer sylweddol o negeseuon testun yn ymwneud â gwerthu cocên.”
“Gyda thystiolaeth sylweddol yn eu herbyn, doedd gan y tri diffynnydd fawr o ddewis ond pledio’n euog i’r cyhuddiadau roedden nhw’n eu hwynebu yn y llys,” meddai.