
Cymraes yn ennill tŷ gwerth £6 miliwn ar ôl prynu tocyn raffl am £10
Mae cyn-gystadleuydd Miss Cymru wedi ennill tŷ gwerth £6 miliwn ar ôl prynu tocyn raffl am £10.
Vicky Curtis-Cresswell, sy'n 38 oed, sydd wedi ennill cystadleuaeth ddiweddaraf cwmni Omaze, a dyma'r tŷ drytaf erioed i gael ei gynnwys mewn cystadleuaeth o'r fath.
Roedd Vicky, ei gŵr Dale a'u merch yn byw gyda'u rhieni yng nghyfraith yn ne Cymru pan dderbyniodd yr alwad yn dweud mai hi oedd enillydd y tŷ yn Norfolk.
Mae gan yr eiddo dair ystafell wely, pwll nofio, cwrt tenis a chelfi gwerth £165,000.
Dywedodd Vicky bod ennill y gystadleuaeth yn eiliad sydd wedi newid ei bywyd am byth.
"Pan ffoniodd Omaze i ddweud fy mod i wedi ennill gwobr, doeddwn i byth yn meddwl mai'r tŷ fyddai'r wobr.
"Mewn ychydig eiliadau fe wnaeth ein bywydau newid am byth.
"Doeddwn i methu credu'r peth, fe wnaeth fy chwaer-yng-nghyfraith ddechrau crio, roedd hi'n gymysgedd o sioc a llawenydd.

"Fel mae pethau i lawer o bobl, mae'n gallu bod yn anodd. Mae'r ddau ohonom yn gweithio mor galed ond mae'r esgid yn gwasgu ambell fisoedd.
"Un wythnos rydym yn poeni am ein car yn torri lawr, a'r peth nesaf mae gennym ni dŷ gwerth £6 miliwn."
Dywedodd Vicky mai ei bwriad oedd gwerthu'r tŷ yn Norfolk a phrynu eiddo yng Nghymru.