Newyddion S4C

‘Annerbyniol’: Diffyg ymateb gan San Steffan i bryderon Eluned Morgan am fudd-daliadau

Y Byd yn ei Le

‘Annerbyniol’: Diffyg ymateb gan San Steffan i bryderon Eluned Morgan am fudd-daliadau

Mae’r Arglwydd Carwyn Jones wedi dweud nad yw’n ‘dderbyniol’ bod Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru heb dderbyn ateb i’w chais am asesiad o effaith newidiadau i fudd-daliadau ar Gymru gan Lywodraeth y DU. 

Ar raglen Y Byd yn ei Le ar S4C, pan ofynnwyd i'r Arglwydd Jones os yw’n dderbyniol nad yw Eluned Morgan wedi derbyn asesiad nag ateb i’w chais gan Liz Kendall, dywedodd; “Na”.

Ychwanegodd: “Byddwn ni wedi erfyn cael ateb a hefyd gweld unrhyw fath o asesiad ac mae’n siom bod hynny wedi digwydd. Nid fel ‘na bydden i di moyn pethau i weithio pan o’n i’n Brif Weinidog."

Dywedodd cyn-Brif Weinidog Cymru “bod rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig sicrhau bod 'na  fwy o wybodaeth ar gael ynglŷn ag unrhyw asesiad.” 

Yr wythnos hon dywedodd Eluned Morgan ei bod hi heb gael ateb gan Lywodraeth y DU ar ôl cysylltu â’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Liz Kendall ar 11 Mawrth yn gofyn am asesiad effaith penodol i Gymru.

Ddydd Mercher fe wnaeth y Canghellor Rachel Reeves gyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer economi'r DU yn ystod Datganiad y Gwanwyn yn Nhŷ'r Cyffredin.

Fe wnaeth Ms Reeves gadarnhau toriadau i’r gyllideb les, fydd yn arbed £4.8bn i’r Trysorlys, yn ôl y Swyddfa dros Gyfrifoldeb Cyllidol. 

Mae'r toriadau yn cynnwys newidiadau i fudd-daliadau, gan gynnwys rheolau cymhwyso llymach ar gyfer Taliadau Annibyniaeth Bersonol (PIP).

Dyma'r prif fudd-dal anabledd, sy'n cael ei hawlio gan fwy na 250,000 o bobl o oedran gweithio yng Nghymru.

Bydd toriadau i daliadau credyd cynhwysol hefyd, wrth i Lywodraeth y DU geisio cael mwy o bobl mewn i fyd gwaith.

Ddydd Mercher, dywedodd Eluned Morgan ei bod yn “siomedig” nad yw hi wedi clywed pa mor uniongyrchol mae’r toriadau yn mynd i effeithio ar Gymru.

Yn ystod ymweliad Ms Reeves â Chymru ddydd Iau, dywedodd bod Eluned Morgan a Liz Kendall "mewn trafodaethau ar hyn o bryd - rydym yn benderfynol o gydweithio".

‘Amarch’ 

Ond yn ôl Ann Davies, AS Plaid Cymru mae’r sefyllfa yn dangos ‘amarch llwyr’.

“Ma’ fe yn dangos amarch o Lafur fan hyn yn San Steffan i’r Senedd yng Nghaerdydd,” meddai ar raglen Y Byd yn ei Le.

“Y stori hyn oedden ni yn cael o’r cyd-weithio gwych bydda yn digwydd rhwng Caerdydd a Llundain, dyw e ddim yn gweithio, dio ddim i weld yn gweithio i ni.”

Dywedodd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, y Fonesig Nia Griffith, bod asesiad wedi cael ei gyhoeddi i Gymru a Lloegr ar y cyd.

“Mae hyn achos bod y DWP (Adran Gwaith a Phensiynau) yn gweithio ar draws Cymru a Lloegr ac nid datganoledig yw budd-daliadau'r DWP,” meddai ar raglen Y Byd yn ei Le. 

“Mae pecyn enfawr o arian yn mynd i Lywodraeth Cymru y tro yma, y pecyn fwyaf erioed; £21 bn. 

“Siŵr o fod bydd cyfle i weld mwy o fanylion yn y dyddie i ddod. Wrth gwrs mae hi [Eluned Morgan] yn gofyn am y manylion, ni gyd moyn gweld y manylion ond beth sy’n bwysig nawr yw gweld y ffigyrau a sicrhau bod ni yn rhoi cyfleoedd gwaith mewn lle. 

“Beth sy’n bwysig iawn ydi’r faith bod ni yn diogelu pobl gyda’r anableddau fwyaf difrifol ac wrth gwrs yn helpu pobol i fynd nôl i’r gwaith.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.