‘Digon o bŵer’ gan Heathrow medd pennaeth y Grid Cenedlaethol
Mae pennaeth y Grid Cenedlaethol wedi cadarnhau roedd gan Heathrow ddigon o bŵer i gadw ar agor yn dilyn tân mewn is-orsaf drydan wnaeth gau’r maes awyr ddydd Gwener.
Dywedodd John Pettigrew fod dwy is-orsaf “bob amser ar gael i’r cwmnïau rhwydwaith dosbarthu a Heathrow gymryd pŵer”.
Cafodd yr hediadau eu hatal ar ôl i dân ddiffodd is-orsaf drydan yn Hayes nos Iau, ac nid oedd modd iddyn nhw ailddechrau tan nos Wener.
Dywedodd Mr Pettigrew wrth y Financial Times: “Nid oedd diffyg capasiti o’r is-orsafoedd.
“Gall pob is-orsaf yn unigol ddarparu digon o bŵer i Heathrow.”
Ychwanegodd: “Roedd dwy is-orsaf bob amser ar gael i’r cwmnïau rhwydwaith dosbarthu a Heathrow gymryd pŵer.
“Mae colli is-orsaf yn ddigwyddiad unigryw - ond roedd dau arall ar gael.
“Felly dyna lefel o wytnwch.”
Dywedodd llefarydd ar ran maes awyr Heathrow: “Fel y nododd prif weithredwr y Grid Cenedlaethol, nid yw erioed wedi gweld methiant fel hyn yn ei 30 mlynedd yn y diwydiant.
“Mae ei farn yn cadarnhau mai digwyddiad digynsail oedd hwn ac na fyddai wedi bod yn bosibl i Heathrow weithredu’n ddi-dor.
“Roedd yn ofynnol i gannoedd o systemau hanfodol ar draws y maes awyr gael eu pweru i lawr yn ddiogel ac yna eu hailgychwyn yn ddiogel ac yn systematig. O ystyried maint a chymhlethdod gweithredol Heathrow, roedd ailgychwyn gweithrediadau’n ddiogel ar ôl tarfu ar y maint hwn yn her sylweddol.”
Ychwanegodd prif weithredwr Heathrow, Thomas Woldbye, bod newidydd trydan wrth gefn wedi methu yn ystod y toriad pŵer, gan olygu roedd yn rhaid cau systemau yn unol â gweithdrefnau diogelwch fel y gallai cyflenwadau pŵer gael eu hailstrwythuro o ddwy is-orsaf arall.