Newyddion S4C

TB mewn pobl yn 'bryder difrifol' meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru

24/03/2025
Newyddion S4C

Mae twbercwlosis (TB) mewn pobl yn parhau i fod yn bryder difrifol i iechyd y cyhoedd yng Nghymru meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth iddyn nhw alw ar bobl i fod yn ymwybodol o’r symptomau.

Yn ôl yr Adroddiad Blynyddol Twbercwlosis yng Nghymru diweddaraf, bu cynnydd yn nifer yr achosion yng Nghymru o 84 yn 2023 i 95 yn 2024, sy’n codi’r gyfradd o 2.7 i 3.0 fesul 100,000 o bobl.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galw ar bobl i fod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau TB, neu'r diciâu, ac i geisio cymorth meddygol os byddant yn eu profi.

Gall symptomau gynnwys peswch parhaus am gyfnod o fwy na thair wythnos, chwysu yn ystod y nos, colli pwysau heb esboniad neu dymheredd uchel. 

Math gwahanol o fycobacteriwm yw'r un sy'n effeithio'n bennaf ar bobl o'i gymharu â gwartheg a cheirw.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i gryfhau strategaethau atal, gwella mynediad at gael diagnosis cynnar, a sicrhau bod pobl yn cael triniaeth brydlon i leihau lledaeniad TB, medden nhw.

Mae rhaglen sgrinio strategol yn cael ei datblygu ynghyd â gweithgarwch sgrinio a thriniaethau penodol a fydd yn targedu’r cymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf. 

'Her iechyd sylweddol'

Dywedodd yr Athro Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru bod TB yn dal i fod yn bresennol yn ein cymunedau, “ac mae’n parhau i fod yn her iechyd sylweddol.”

“Mae’r cynnydd mewn achosion o TB yng Nghymru yn amlygu’r angen dybryd am strategaethau atal cryfach a gwell mynediad at ddiagnosis cynnar,” meddai.

“Drwy sicrhau bod pobl yn cael triniaeth brydlon, gallwn amddiffyn ein cymunedau rhag y clefyd difrifol hwn, sydd hefyd yn un y gellir ei atal.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.