Newyddion S4C

‘Gofal mewn coridor’ wedi tyfu yn broblem ‘endemig’ yng Nghymru

24/03/2025
Ysbyty

Mae pob adran achosion brys yng Nghymru yn gofalu am gleifion mewn coridorau, ac mae’r broblem wedi tyfu yn un “endemig”, meddai’r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys.

Mae’r Coleg, sy’n cynrychioli clinigwyr brys ar draws Cymru a gweddill y DU, wedi galw ar lywodraeth Cymru i atal 'gofal coridor', gan ddweud ei fod yn “beryglus a diraddiol”.

Datgelodd arolwg a gafodd ei gynnal dros dridiau dros Ionawr a Chwefror fod pob un o 12 adran achosion brys Cymru yn trin pobl mewn coridorau neu fannau aros.

Mae’r canlyniadau a gafodd eu cyhoeddi ddydd Llun hefyd yn dangos bod cleifion yn cael gofal yng nghefn ambiwlansys ar o leiaf un o’r tri diwrnod sampl.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad ydyn nhw’n cymeradwyo gofal mewn “amgylcheddau anghlinigol neu anaddas” ond bod yna adegau pan mae’r GIG “yn wynebu pwysau eithriadol”.

'blaenoriaeth wleidyddol'

Dywedodd Dr Rob Perry, Is-lywydd RCEM Cymru: “Yn ddiweddar dywedodd Llywodraeth Cymru fod peryglu ansawdd gofal, preifatrwydd neu urddas cleifion ond yn digwydd ar ‘achlysuron pan fo’r GIG yn wynebu pwysau eithriadol’.

“Wel, mae ein hymchwil yn dangos yn glir mai pwysau eithriadol bellach yw’r norm bob dydd yn Adrannau Achosion Brys Cymru.

“A rhaid peidio â diystyru hyn fel rhywbeth i’w briodoli i’r ymchwydd tymhorol blynyddol.

“Rwy’n hyderus y byddai’r canlyniadau’n debyg pa bynnag adeg o’r flwyddyn fydden ni'n cynnal yr arolwg hwn.

“Dylai’r canfyddiadau hyn syfrdanu a chywilyddio’r Llywodraeth i weithredu.

“Mae’r hyn a elwir yn ‘ofal coridor’ yn beryglus, yn ddiraddiol, yn ddad-ddyneiddiol ac mae bellach yn endemig yma yng Nghymru.

“Rhaid i fynd i’r afael ag ef a’i achosion fod yn flaenoriaeth wleidyddol, a rhaid iddo weithredu nawr.”

'Pwysau eithriadol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Nid ydym yn cymeradwyo gofal na thriniaeth arferol unigolion mewn amgylcheddau anghlinigol neu anaddas, nac unrhyw sefyllfaoedd lle mae ansawdd gofal, preifatrwydd nac urddas cleifion yn cael eu peryglu.

“Fodd bynnag, mae yna adegau pan fydd y GIG yn wynebu pwysau eithriadol, megis yn ystod cyfnodau o alw cynyddol neu argyfyngau iechyd cyhoeddus.

“Nid yw’r pwysau hyn yn unigryw i Gymru.

“Rydym wedi darparu mwy na £200m o gyllid ychwanegol eleni i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal i reoli mwy o bobl gartref yn ddiogel a gwella amser rhyddhau o’r ysbyty sy’n hanfodol i helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.