Anafiadau difrifol i seiclwr ar ôl gwrthdrawiad ar gyffordd M4
Mae’r heddlu yn apelio am dystion ar ôl gwrthdrawiad rhwng car a beiciwr ar allanfa cyffordd 38 yr M4 ym Margam am tua 10:50 fore Sadwrn.
Roedd Citroen C3 gwyn wedi gadael ffordd yr M4 i gyfeiriad y dwyrain ac wedi gwrthdaro â’r beiciwr, oedd ar y gylchfan.
Mae’r beiciwr wedi’i gludo i’r ysbyty lle mae’n cael triniaeth am anafiadau difrifol.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw eisiau siarad ag unrhyw un a welodd y digwyddiad neu a allai fod â lluniau camera cerbyd o'r gwrthdrawiad neu o'r car sy'n gadael Cyffordd 38.
Cysylltwch â nhw ar 101 neu ffoniwch Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2500090691.